Nici Evans, Cynghorydd Gwella Ymarfer yng Nghymru
Centre of Expertise on Child Sexual Abuse
Mae Nici yn angerddol am ddod o hyd i ffyrdd gwell o gydweithio i wella iechyd a llesiant plant, oedolion a theuluoedd agored i niwed ynglŷn ag ymatebion i pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin plant yn rhywiol.
Mae cefndir Nici mewn nyrsio, gofal lliniarol, ac addysgu. Drwy gydol ei gyrfa, mae ganddi gysylltiadau cryf â gweithwyr proffesiynol nyrsio, iechyd, gofal cymdeithasol a’r heddlu. Mae hi wedi cefnogi menywod sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw, a dioddefwyr masnachu pobl a chaethwasiaeth.
Mae meysydd proffesiynol o ddiddordeb arbennig Nici yn cynnwys hyfforddiant sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol, trawma, a gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol.
Yn seicotherapydd cymwysedig, mae Nici yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc un diwrnod yr wythnos mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd. Mae Nici hefyd yn rhoi cymorth seicolegol ac yn cynnal sesiynau ymarfer myfyriol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y GIG.