Jump to content
Gweminar: cefnogi pobl ifanc niwroamrywiol sydd wedi profi trawma
Digwyddiad

Gweminar: cefnogi pobl ifanc niwroamrywiol sydd wedi profi trawma

Dyddiad
22 Mai 2025, 10.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru gyda Straen Trawmatig Cymru ac Autism Wellbeing CIC

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r weminar hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant mewn gofal preswyl a allai fod wedi profi trawma, gan gynnwys:

  • pobl sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant
  • rheolwyr preswyl i blant
  • gweithwyr preswyl i blant
  • pobl sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
  • pobl sy'n cefnogi'r gweithlu mewn lleoliadau preswyl i blant.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn dysgu:

  • sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng niwroamrywiaeth a thrawma
  • sut y gall pobl ymddwyn yn wahanol os ydynt yn niwroamrywiaeth neu wedi profi trawma
  • sut y gall rhywun ag awtistiaeth neu ADHD, neu sydd wedi profi trawma, brofi mewnbwn synhwyraidd yn wahanol
  • sut y gallwch adnabod arwyddion o hyn yn y gweithle
  • sut i drafod niwroamrywiaeth neu drawma, darparu cymorth, datblygu strategaethau ac addasu amgylcheddau i gyd o fewn lleoliad preswyl i blant.

Archebu eich lle

I gael rhagor o wybodaeth am y gweminar hwn, e-bostiwch: gofalpreswylplant@gofalcymdeithasol.cymru