Jump to content
Tynnu rheolwyr cartref gofal i oedolion o’r Gofrestr oherwydd nifer o fethiannau diogelu
Newyddion

Tynnu rheolwyr cartref gofal i oedolion o’r Gofrestr oherwydd nifer o fethiannau diogelu

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae dau reolwr cartref gofal i oedolion o ogledd Cymru wedi cael eu tynnu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod eu haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Ym mis Tachwedd 2018, daeth Pauline Mellor yn rheolwr cartref gofal lle’r oedd preswyliwr wedi marw trwy dagu ar ei fwyd yn gynharach y flwyddyn honno.

Canfu arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru sawl problem yn y cartref, yr oedd Ms Mellor yn ymwybodol ohonynt pan ddaeth yn rheolwr ar ôl gweithio fel nyrs yn y cartref o'r blaen.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd Ms Mellor wedi mynd i’r afael â’r problemau hyn a’i bod wedi rhoi’r preswylwyr mewn perygl o niwed.

Roedd y methiannau’n cynnwys methu sicrhau bod cynlluniau gofal ar waith ar gyfer yr holl breswylwyr, methu sicrhau bod y preswylwyr yn gallu cael triniaeth a chyngor gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a methu sicrhau bod digon o staff hyfforddedig, cymwysedig a medrus ar gael.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod cynghorydd sicrhau ansawdd y cartref, sef Claire Sheppeck, yn rhannu’r cyfrifoldeb am y methiannau trwy fethu cynorthwyo Ms Mellor i gynnal y cartref.

Cyhuddwyd Ms Sheppeck hefyd o fethu amddiffyn, hyrwyddo a chynnal diogelwch a llesiant y bobl a oedd yn ei gofal tra ei bod yn rheoli cartref gofal gwahanol, ac nad oedd yn cynnal y cartref hwnnw yn ddigon gofalus, cymwys a medrus.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Ms Mellor a Ms Sheppeck i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad trwy ddweud: “Canfyddwn eu bod nhw, yn fwriadol, wedi methu cyflawni eu dyletswyddau, a gafodd effaith ddifrifol ar iechyd a lles y preswylwyr… Ystyriwn fod eu hymddygiad yn hyn o beth yn resynus.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i ni fod Ms Mellow a Ms Sheppeck wedi ceisio unioni eu hymddygiad na myfyrio arno. Nid ydynt wedi dangos unrhyw ddirnadaeth o’u methiannau. Yn lle hynny, mae’r dystiolaeth yn awgrymu eu bod nhw wedi ceisio rhoi’r bai ar eraill ac wedi methu cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.

“Yng ngoleuni eu methiant i gydnabod unrhyw gamwedd ar eu rhan nhw, nid ydym yn credu y gellir unioni eu hymddygiad yn rhwydd.”

Penderfynodd y panel tynnu Ms Mellor a Ms Sheppeck o’r Gofrestr, gan ddweud: “Mae Ms Mellor a Ms Sheppeck wedi dangos difaterwch llwyr ynglŷn â’r safonau proffesiynol perthnasol a amlinellir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, a gwyriad difrifol oddi wrthynt.

“Rydym wedi penderfynu y byddai ffydd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei thanseilio trwy ganiatáu i Ms Mellor a Ms Sheppeck aros ar y Gofrestr.

“Nid ydym o’r farn bod unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd o ganlyniad i’w diffyg dirnadaeth llwyr, diffyg myfyrio ar effaith eu hymddygiad ac unrhyw dystiolaeth o debygolrwydd o unioni eu diffygion yn foddhaol.”

Nid oedd Ms Mellow a Ms Sheppeck yn bresennol yn y gwrandawiad ar y cyd saith diwrnod o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom o 22 Ebrill 2021.