Jump to content
​Tynnu rheolwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

​Tynnu rheolwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr gofal cartref o Abergele wedi’i dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Roedd Joanne Heather yn gweithio fel rheolwr ar gyfer asiantaeth gofal cartref pan fethodd â sicrhau bod gan yr holl gleientiaid a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth gynlluniau gofal manwl ar waith a methodd sicrhau bod cleientiaid yn cael ymweliadau yn unol â’u cynlluniau gofal.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ms Heather, ar fwy nag un achlysur, wedi methu ymweld â chleient agored i niwed fel y cynlluniwyd ar gyfer galwad gyda’r nos. Ar achlysur arall, cyhuddwyd Ms Heather o fethu cynnal galwad a gynlluniwyd a gadael yr unigolyn agored i niwed mewn tŷ heb ei gloi dros nos a heb fod wedi cael ei meddyginiaeth. Yna, dywedodd wrth aelod o staff am gwblhau cofnodion yn gelwyddog i guddio ei methiannau.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd fod Ms Heather wedi methu cynnal ymweliadau eraill a gynlluniwyd, wedi dweud wrth roddwyr gofal eraill i gynnal galwadau dau berson ar eu pen eu hunain ac wedi hawlio taliadau’n gelwyddog ar gyfer ymweliadau nad oedd hi wedi’u cynnal.

Yn ogystal, dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ms Heather wedi cytuno i gynyddu pecyn gofal cleient pan nad oedd yn gallu ei gyflawni.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod addasrwydd Ms Heather i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad, trwy ddweud: “Mae’r ffaith bod yr ymddygiad hwn wedi cael ei ddangos gan rywun a oedd yn cyflawni rôl rheolwr ofal ac wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rheolwr cartref gofal yn warthus. Roedd yn amlwg iawn wedi torri’r ymddiriedaeth yr oedd gan bobl agored i niwed a’u teuluoedd yn Ms Heather i ddarparu’r gofal diogel a phriodol yr oedd ganddynt yr hawl i’w ddisgwyl.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Canfyddwn fod yr ymddygiad, mewn rhai achosion, yn gyfystyr â chreulondeb. Yn ein barn ni, dyna’r unig ffordd deg o ddisgrifio’r methiannau i ymweld [ag unigolyn agored i niwed], ac felly ei hamddifadu o’i meddyginiaeth a’i gadael, ar ei phen ei hun, mewn tŷ heb ei gloi dros nos.

“Er mwyn celu ei methiannau i ymweld, gorchmynnodd Ms Heather fod cofnodion gofal yn cael eu cwblhau’n anonest i guddio’r ffaith honno, gan felly gamfanteisio ar fregusrwydd cynhenid [yr unigolyn a oedd yn ei gofal], gan wybod y byddai rhywfaint o betruster cyn derbyn ei gair hi nad oedd neb wedi ymweld.

“Nid ydym yn credu ei bod yn mynd yn rhy bell i ddweud y byddai’r ymddygiad hwn, yn ogystal â hwnnw rydym wedi canfod ei fod wedi’i brofi’n fwy cyffredinol, yn ffieiddio’r cyhoedd a’r proffesiwn.”

Ychwanegodd y panel: “Heb unrhyw wir ddirnadaeth neu edifeirwch, ystyriwn ei bod yn annhebygol y byddai Ms Heather yn gwneud penderfyniadau gwahanol neu’n ymddwyn yn wahanol yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel i dynnu Ms Heather o’r Gofrestr, gan ddweud: “Bu gwyriad difrifol oddi wrth y safonau perthnasol a amlinellir yn y Côd. Nid ydym o’r farn y byddai unrhyw benderfyniad llai yn diogelu’r cyhoedd, o ystyried y diffyg dirnadaeth a chamau unioni – a’n canfyddiadau o greulondeb, anonestrwydd a diffyg uniondeb.”

Nid oedd Ms Heather yn bresennol yn y gwrandawiad pum niwrnod o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom.