Mae rheolwr cartref gofal oedolion o Sir y Fflint wedi cael ei thynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol ac euogfarn droseddol.
Clywodd y gwrandawiad fod Faye Carter wedi'i chanfod yn euog o ymosodiad gan Lys Ynadon Swydd Gaer ym mis Chwefror 2021, ar ôl cyfaddef ei bod wedi ymosod ar ddau berson, gan gynnwys swyddog heddlu, ym mis Rhagfyr 2020, tra'n cael ei chyflogi fel dirprwy reolwr mewn cartref gofal.
Clywodd y panel hefyd fod Ms Carter wedi ymddwyn mewn ffordd fygythiol a sarhaus tuag at berson arall oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad fod addasrwydd i ymarfer Ms Carter wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd ei chamymddygiad difrifol a'i heuogfarn droseddol.
Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: "Rydym yn pryderu am lefel y trais a ddangoswyd gan Ms Carter tuag at eraill. Mae wedi cyfaddef i gyfres o ffrwydradau ymosodol yn erbyn tri unigolyn gwahanol, a'r cyfan wedi digwydd yn gyhoeddus, ac arweiniodd hyn at gael ei hatal yn gorfforol a’i harestio gan yr heddlu.
"Rydym hefyd wedi canfod bod un o'r troseddau wedi'i gyflawni yn sgil elfen homoffobig. O ganlyniad, ni allwn ddweud gydag unrhyw hyder nad yw'n peri risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau yn y dyfodol.
Penderfynodd y panel dynnu Ms Carter o'r Gofrestr, gan ddweud: " Rydym wedi darganfod bod ymddygiad Ms Carter yn druenus ac mae hi wedi dangos diystyrwch amlwg ar gyfer y safonau proffesiynol perthnasol a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
"Rydym wedi penderfynu y byddai hyder yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio drwy ganiatáu i Ms Carter aros ar y Gofrestr. Nid ydym o'r farn bod unrhyw ffordd arall o ddiogelu'r cyhoedd rhag y risgiau y mae Ms Carter yn eu cyflwyno oherwydd ei diffyg mewnwelediad a'r posibiliadau cyfyngedig o adfer. "
Cynhaliwyd y gwrandawiad undydd dros Zoom ar 27 Medi 2021.