Jump to content
Tynnu rheolwr cartref gofal i oedolion oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu rheolwr cartref gofal i oedolion oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr cartref gofal i oedolion o Gaerffili wedi'i thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Clywodd y gwrandawiad fod Kirsty Reynolds yn ymddwyn yn amhriodol tuag at berson sy'n derbyn gofal a chymorth drwy fachu'r person wrth ei freichiau a'i arddyrnau, ei wthio a'i slapio, ei ffrwyno â thywel, gweiddi arno a pheidio â defnyddio gofal rhesymol wrth ei siafio.

Hefyd, clywodd y panel fod Ms Reynolds yn dal wyneb y person yn ddiangen gan ddefnyddio grym gormodol, yn rhoi tywel dros ei wyneb a'i dynnu gydag ef, a defnyddio iaith ddifrïol tuag ato ar fwy nag un achlysur.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad bod addasrwydd i ymarfer Ms Reynolds wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Yn hytrach na gofalu am [y sawl sy'n derbyn gofal a chymorth] a'i drin [ef] gyda pharch ac urddas [fe wnaeth Ms Reynolds] gamddefnyddio ei safle o ymddiriedaeth ac achosi [iddo] ddioddef ymddygiad diraddiol a/neu gamdriniaeth gyda'r potensial i achosi anaf – rydym o'r farn bod ymddygiad Ms Reynolds yn wrthun ac yn farbaraidd.

“Rydym yn pryderu bod ymddygiad o'r fath yn awgrymu tystiolaeth o broblemau niweidiol o ran agwedd neu ymddygiad.”

Parhaodd y panel: “Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod Ms Reynolds yn deall nac wedi myfyrio ar natur ddifrifol a chanlyniadau posibl ei hymddygiad.

“Fe'n hysbyswyd gan [dyst] fod Ms Reynolds yn 'ddiystyriol' yn ystod yr ymchwiliad disgyblu. Felly, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth ei bod wedi dangos unrhyw ddirnadaeth o'i gweithredoedd.

“Mae Ms Reynolds wedi gwadu unrhyw gamweddau ac nid yw wedi dangos unrhyw edifeirwch na thosturi ynghylch ei hymddygiad na'r effaith bosibl ar [y person bregus sy'n derbyn gofal a chymorth].

“O ganlyniad, ni allwn fod yn hyderus na fyddai'n ymddwyn yr un fath eto ac o'r farn ei bod yn cyflwyno risg gyfredol a pharhaus i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth."

Penderfynodd y panel dynnu Ms Reynolds o'r Gofrestr, gan ddweud: “Mae ymddygiad Ms Reynolds yn sylfaenol anghydnaws â rôl yn y proffesiwn gofal cymdeithasol ac rydym wedi penderfynu y byddai caniatáu i Ms Reynolds aros ar y Gofrestr yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal.

“Credwn fod Gorchymyn Dileu yn gymesur ac yn angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd a budd ehangach y cyhoedd, yn enwedig o ystyried difrifoldeb ein canfyddiadau a diffyg unrhyw welliant neu edifeirwch gan Ms Reynolds.”

Nid oedd Ms Reynolds yn bresennol yn y gwrandawiad deuddydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.