Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Wynedd wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Vladimir Ivanov, ym mis Gorffennaf 2020, wedi atal unigolyn ifanc o dan ei ofal pan nad oedd yn briodol gwneud hynny, gan ddefnyddio grym gormodol a dull atal amhriodol, ac achosi niwed i'r unigolyn ifanc.

Dywedwyd wrth y panel fod gweithredoedd Mr Ivanov wedi achosi i'r unigolyn ifanc daro ei ben ar wal a bod Mr Ivanov wedi ymddwyn mewn ffordd fygythiol tuag at yr unigolyn ifanc ac wedi methu dilyn yr hyfforddiant a gafodd gan ei gyflogwr.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd i ymarfer Mr Ivanov wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: "Rydym wedi canfod bod Mr Ivanov wedi defnyddio ataliad corfforol diangen a'i fod wedi ymddwyn yn ymosodol a gyda grym gormodol gan achosi niwed emosiynol i [yr unigolyn ifanc a] pheryglu achosi niwed corfforol."

Ychwanegodd y panel: "Nid yw ei neges e-bost at Ofal Cymdeithasol Cymru a'i ymateb i ymchwiliad disgyblu ei gyn-gyflogwr yn awgrymu mewnwelediad i'w gamymddygiad nac ymrwymiad i adfer.

"Mae ei absenoldeb o'r gwrandawiad hwn yn golygu nad oes gennym unrhyw dystiolaeth ei fod wedi cymryd unrhyw gamau i wella ei arfer ers mis Gorffennaf 2020. Mae ei absenoldeb yn debygol yn ein barn ni i ddangos nad yw wedi ymrwymo i unioni pethau."

Penderfynodd y panel dynnu Mr Ivanov o’r y Gofrestr, gan ddweud: "Dim ond gosod Gorchymyn Dileu fydd yn darparu amddiffyniad digonol i'r cyhoedd o dan amgylchiadau'r achos hwn.

"Mae diffyg ymgysylltiad, mewnwelediad ac ymrwymiad Mr Ivanov i adfer yn gwneud y gorchymyn hwnnw’n angenrheidiol a chymesur."

Nid oedd Mr Ivanov yn bresennol yn y gwrandawiad deuddydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.