Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant yn Sir Fôn wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, ar ôl i wrandawiad gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei gamymddygiad difrifol yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Ar 15 Mai 2019, cafodd Alan Hughes ei gyhuddo o nifer o fethiannau diogelu, ar ôl i berson ifanc agored i niwed a oedd o dan ofal Mr Hughes redeg i ffwrdd o’r garafán lle’r oedd yn aros gyda gweithiwr gofal arall.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd Mr Hughes, gydol y dydd, wedi taro golwg ar y person ifanc, nad oedd wedi cynnig bwyd na diod i’r person ifanc na’r feddyginiaeth y mae’n ei chael ar bresgripsiwn, ac nad oedd wedi annog y person ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd fod methiannau Mr Hughes yn golygu nad oedd wedi dilyn cynllun gofal y person ifanc, a’i fod wedi rhoi’r person ifanc mewn perygl o gael niwed.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad nad oedd ymddygiad Mr Hughes yn cyrraedd y safonau a ddisgwylid ganddo fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, ac nad oedd yn dangos unrhyw edifeirwch na dirnadaeth o’r hyn yr oedd wedi’i wneud.

Felly, penderfynodd y panel fod camymddygiad difrifol Mr Hughes yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae pob un o’r materion rydym wedi profi eu bod yn wir yn cynrychioli ymddygiad sy’n gwbl amhriodol ar gyfer gweithiwr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol.”

Ychwanegodd y panel: “Mae diffyg dirnadaeth Mr Hughes yn creu risg gyfredol i unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae hyn, yn ein barn ni, yn gwaethygu pethau gan ei fod yn dangos diffyg dirnadaeth o effaith bosibl ei ymddygiad nid yn unig ar y person ifanc, ond hefyd ar ffydd y cyhoedd yn y proffesiwn.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Credwn, yn niffyg unrhyw ddirnadaeth nac edifeirwch, na allwn ddod i’r casgliad y byddai Mr Hughes yn gwneud penderfyniadau gwahanol neu’n ymddwyn yn wahanol yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Hughes oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Ar sail y dystiolaeth sydd ger ein bron, dim ond Gorchymyn Tynnu fydd yn ddigonol. Mae hyn oherwydd y bu gwyro difrifol, yn ein barn ni, oddi wrth y safonau perthnasol a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol. Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd.”

Cynhaliwyd y gwrandawiad o bell dros Zoom, dros bum diwrnod rhwng 11 a 15 Ionawr 2021.