Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd pryderon diogelu difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd pryderon diogelu difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Sir y Fflint wedi cael ei dynnu oddi ar Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei ymddygiad wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Ym mis Awst 2021, cafodd Thomas Adams ei ddyfarnu’n euog yn Llys Ynadon Lerpwl a Knowsley o dynnu a meddu ar ffotograffau anweddus o blentyn ac wedyn cafodd ddedfryd o 16 mis yn y carchar a gafodd ei ohirio am ddwy flynedd.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, daeth y panel i’r penderfyniad fod camymddygiad difrifol Mr Adams yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd pryderon diogelu difrifol.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Defnyddiodd Mr Adams y rhyngrwyd i lwytho dros 300 o ddelweddau anweddus o blant i lawr – rhai mor ifanc â phump oed. Roedd yn meddu ar y delweddau hynny am fwy na 18 mis.”

Ychwanegodd y panel: “Digwyddodd hyn ar adeg pan oedd Mr Adams wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn cael ei gyflogi fel gweithiwr gofal preswyl i blant.

“Roedd Mr Adams yn gweithio mewn rôl lle’r oedd yn cael cyswllt cyson â phlant agored i niwed, felly mae’r ffaith ei fod wedi llwytho deunydd o’r fath i lawr yn ddychrynllyd, a dweud y gwir.”

Wrth esbonio ymhellach, dywedodd y panel: “Mae’r trawsgrifiad o’r gwrandawiad dedfrydu yn cofnodi barn y barnwr bod posibilrwydd realistig o ailsefydlu yn achos Mr Adams, ond nid yw wedi bod yn bresennol yn y gwrandawiad hwn. Mae hyn yn ein gadael heb unrhyw dystiolaeth ganddo ar y mater hwn, na’r materion ehangach o ran dirnadaeth ac edifeirwch.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Adams oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Roedd Mr Adams yn llwytho delweddau anweddus o blant i lawr ar yr un pryd â chyflawni swydd gweithiwr gofal preswyl i blant. Mae ei weithredodd wedi mynd yn gwbl groes i gyfrifoldebau ei swydd.

Ychwanegodd y panel: “Mae’r niwed a wneir i enw da’r proffesiwn drwy weithredoedd Mr Adams, yn ein barn ni, yn anfesuradwy. Rydym yn bendant fod ymddygiad Mr Adams yn fwriadol ac wedi’i gynllunio ymlaen llawn.

“Rydym hefyd yn cofio o sylwadau’r barnwr dedfrydu bod Mr Adams, i ryw raddau o leiaf, yn dal i wadu difrifoldeb ei droseddu.”

Ychwanegodd y panel: “Dim ond Gorchymyn Tynnu fydd yn ddigonol. “Mae hyn oherwydd y bu gwyro difrifol, yn ein barn ni, oddi wrth y safonau perthnasol a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd.”

Nid oedd Mr Adams yn bresennol yn y gwrandawiad a gynhaliwyd ar-lein dros Zoom yr wythnos diwethaf.