Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Social Care Wales

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Gasnewydd wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd gamymddygiad difrifol.

Ym mis Chwefror 2020, dywedodd cyflogwr Alan Painter wrth Gofal Cymdeithasol Cymru fod Mr Painter wedi cael ei wahardd o’i rôl. Roedd hyn oherwydd wnaethynt ddarganfod ei fod wedi cyflawni trais domestig a bod hyn wedi arwain at achos yn ei erbyn. Roedd hefyd wedi torri ei god ymarfer proffesiynol trwy fethu â dweud wrth ei gyflogwr am hyn.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad fod camymddygiad difrifol Mr Painter yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Rydym o’r farn fod ymddygiad Mr Painter yn ddifrifol. Rydym hefyd o’r farn y byddai gan aelodau o’r cyhoedd bryderon amdano yn gofalu am eu perthnasau bregus...”

Ychwanegodd y panel: “Nid ydym o’r farn o’r dystiolaeth sydd ar gael fod Mr Painter wedi mynegi unrhyw edifeirwch ynghylch ei weithredoedd.

“Rydym hefyd o’r farn nad yw Mr Painter wedi dangos dealltwriaeth o’i ymddygiad nac wedi myfyrio arno. Hefyd, nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth ei fod wedi cymryd camau i wella ei ymddygiad [...] neu ei fod yn debygol o’i wella yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Painter oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydym wedi penderfynu bod angen gosod Gorchymyn Dileu yn yr achos hwn. Yn ein barn ni, nid oes unrhyw ffordd arall o ddiogelu aelodau’r cyhoedd rhag y risg y mae Mr Painter yn ei hachosi.

“Mae Mr Painter wedi dangos diffyg dirnadaeth o ddifrifoldeb neu ganlyniadau ei weithredoedd.

“Mae wedi dangos diffyg parch at y safonau proffesiynol perthnasol a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, ac wedi gwyro’n ddifrifol oddi wrth y safonau hynny.”

Nid oedd Mr Painter yn bresennol yn y gwrandawiad a gynhaliwyd ar-lein dros Zoom yn gynharach yr wythnos yma.