Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Abertawe wedi cael ei thynnu oddi wrth y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Georgia Thomas wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ac wedi cyfnewid negeseuon o natur rywiol gyda phreswylydd 15 oed yn ei gofal rhwng mis Awst a mis Hydref 2018.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Ms Thomas wedi anfon llun amhriodol ohono’i hun at y person ifanc ac wedi dweud wrth y person ifanc ei bod yn ei garu.

Hefyd, dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Ms Thomas wedi methu â rhoi gwybod yn brydlon i’w chyflogwr pan oedd y person ifanc yn bygwth hunan-niweidio, a’i bod wedi dweud celwydd wrth ei chyflogwr am ei chysylltiadau gyda’r person ifanc ar gyfryngau cymdeithasol.

O ganlyniad i’r honiadau, cafodd Ms Thomas ei hatal o’i gwaith gan ei chyflogwr, ac yna cafodd ei diswyddo.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod Ms Thomas wedi ymddwyn mewn ffordd anonest a heb uniondeb, a bod ei chamymddwyn difrifol yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae amheuaeth amlwg ynghylch uniondeb cymeriad Ms Thomas ac mae ei gweithredoedd yn mynd yn erbyn un o egwyddorion sylfaenol y proffesiwn gofal cymdeithasol. Mae ei gweithredoedd yn debygol o fod wedi achosi niwed i [y person ifanc yn ei gofal] trwy barhau ei anawsterau ymlyniad. Mae ymddygiad o’r fath yn debygol o danseilio hyder y cyhoedd os na fyddwn yn mynd i’r afael yn gadarn â’r mater.

“Roedd Ms Thomas yn diystyru llessiant [y person ifanc] a llesiant ei chyd-weithwyr. Gallai fod wedi achosi niwed sylweddol iddo yn ystod cyfnod hollbwysig yn ei ddatblygiad, yn enwedig o ran ei ddealltwriaeth o berthnasoedd priodol gyda menywod.

“Mae tair blyneddd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau dan sylw, ond nid oes gennym dystiolaeth bod Ms Thomas wedi derbyn ei bod wedi gwneud camgymeriad ac wedi cymryd camau difrifol i fynd i’r afael â’i hymddygiad.”

Ychwanegodd y panel: “Does dim arwydd o ddirnadaeth nac edifeirwch ar ei rhan. Rydym yn dod i’r casgliad, felly, bod Ms Thomas yn debygol o ymddwyn yn y dyfodol mewn ffordd sy’n rhoi unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth mewn perygl.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Thomas oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Gorchymyn Dileu yw’r unig opsiwn sy’n briodol o ystyried yr amgylchiadau. Byddai Ms Thomas yn peri risg sylweddol i bobl ifanc yn enwedig pe bai’n dychwelyd i waith gofal cymdeithasol.”

Nid oedd Ms Thomas yn bresennol yn y gwrandawiad pedwar diwrnod a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.