Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Wrecsam wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei chamymddygiad difrifol yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer.
Clywodd y gwrandawiad bod Rebecca Spencer, rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2020, wedi tynnu lluniau o bobl ifanc yn ei gofal heb eu caniatâd ac wedi anfon y lluniau ymlaen gyda sylwadau amhriodol.
Yn ogystal, roedd Ms Spencer wedi rhannu gwybodaeth gyfrinachol am y bobl ifanc yn ei gofal yn amhriodol, wedi ymddwyn mewn ffordd sarhaus tuag atynt ac wedi dweud wrth unigolyn arall ei bod yn defnyddio cyffuriau hamdden.
At hynny, nid oedd Ms Spencer wedi rhoi gwybod i Gofal Cymdeithasol Cymru ei bod wedi cael ei diswyddo o swydd flaenorol pan wnaeth gais i fod ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod camymddygiad difrifol Ms Spencer yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Wrth esbonio’r penderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms Spencer: “Mae’r camymddwyn sydd wedi’i brofi’n ddiamau yn warthus o gofio ei fod yn cynnwys sawl gweithred o gam-drin bychanol a diraddiol yn erbyn pobl ifanc agored i niwed. Gwnaethoch chi gyfeirio at y bobl ifanc hyn mewn geiriau ffiaidd yn eich negeseuon at [unigolyn arall].
Gwnaethoch chi dorri ymddiriedaeth eich cyflogwr ar y pryd, ac ymddiriedaeth y bobl ifanc dan sylw. Roedd gan y ddau hawl i ddisgwyl i chi barchu cyfrinachedd.
“Yn eich negeseuon, gwnaethoch chi fychanu a diraddio’r bobl ifanc yn y ffordd roeddech chi’n siarad amdanynt. Gwnaethoch chi eu henwi, anfon lluniau ohonynt, ac – mewn un achos – anfon lun o gynllun gofal person ifanc at [unigolyn arall] Mewn neges arall, gwnaethoch chi gyfeirio at eich awydd i ddefnyddio cyffuriau hamdden wrth ofalu am y bobl ifanc.”
Ychwanegodd y panel: “Nid oes unrhyw dystiolaeth o ddirnadaeth ger ein bron, a nid oed unrhyw dystiolaeth eich bod yn cymryd camau adferol wedi i chi dorri’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.”
Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Spencer oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Bu gwyro difrifol oddi wrth y safonau perthnasol a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd, o ystyried y diffyg dirnadaeth ac adferiad y cyfeiriwyd atynt gynt, a’r anonestrwydd a welsom.”
“Mae anonestrwydd, yn enwedig pan fydd yn gysylltiedig ag ymarfer proffesiynol, mor niweidiol i addasrwydd person cofrestredig ac i hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, mai’r unig benderfyniad priodol yw tynnu’r unigolyn oddi ar y gofresr.”
Cynhaliwyd y gwrandawiad pedwar diwrnod ar Zoom yn ystod yr wythnos diwethaf.