Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Wrecsam wedi’i dynnu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod nam ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Dywedwyd wrth y panel bod Thomas Cross, rhwng Tachwedd 2019 a Mawrth 2020, wedi cyfnewid negeseuon a galwadau amhriodol, â chymhelliad rhywiol, ar wahân, â dau o bobl, ac ynddynt roedd yn trafod ei ffantasïau am gael rhyw gyda phlentyn.

Yn ogystal, dywedwyd wrth y panel fod Mr Cross wedi dweud celwydd am amgylchiadau ei euogfarn yn 2011 am yrru dan ddylanwad alcohol wrth ei gyflogwr ym Mai 2018 ac yn ystod ei gais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn Ionawr 2019.

Ar ôl gwrando ar y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod amhariad presennol ar addasrwydd Mr Cross i ymarfer oherwydd camymddygiad difrifol.

Wrth esbonio’i benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae’n eglur fod Mr Cross wedi torri un o egwyddorion craidd y proffesiwn gofal cymdeithasol.

Aeth y panel yn ei flaen: “Mae’r agweddau enbyd o amhriodol at ffiniau rhywiol a fynegodd, ynghyd ag anonestrwydd, yn eu hanfod yn bethau anodd iawn eu cywiro.

“Nid oes tystiolaeth fod Mr Cross wedi cydnabod y broblem na chymryd unrhyw gamau i wneud rhywbeth amdani. Nid oes sail i ni fod ag unrhyw hyder bod yr amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, a oedd yn amlwg adeg ei gyhuddo, wedi cael ei gywiro.”

Penderfynodd y panel dynnu enw Mr Cross o’r Gofrestr, gan ddweud: “Er nad oes tystiolaeth fod Mr Cross wedi cyflawni ei ffantasïau, mae’r safbwyntiau a fynegodd yn peri risg ddifrifol at y dyfodol. Rydym wedi asesu bod yr achos hwn yn un uchel ei risg.”

Dywedodd y panel ymhellach: “O ystyried natur agweddol y nam, sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, ei ddiffyg dirnadaeth a’i ddiffyg cymhelliad i adfer (sydd i’w weld yn y ffaith nad yw wedi cymryd rhan yn y gwrandawiad hwn), ni allwn fod yn hyderus o gwbl y bydd y sefyllfa wedi gwella hyd yn oed ar ôl y cyfnod atal mwyaf.

“Rydym wedi penderfynu bod angen gosod Gorchymyn Dileu. Dyma’r gorchymyn priodol oherwydd lefel uchel y risg.”

Nid oedd Mr Cross yn bresennol yn y gwrandawiad deuddydd, a gynhaliwyd ar Zoom wythnos diwethaf.