Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Wrecsam wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i banel adolygu addasrwydd i ymarfer canfod nad oedd wedi cyflawni’r argymhellion a osodwyd gan banel adolygu blaenorol.
Cafodd Ben Berry ei atal rhag gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru am naw mis yn wreiddiol ym mis Mawrth 2019, ar ôl i berson ifanc yn ei ofal redeg i ffwrdd yn ystod taith, ac ar ôl i Mr Berry roi cyfrifon oedd yn gwrthdaro i’r heddlu am yr hyn a ddigwyddodd.
Yn dilyn gwrandawiad adolygu ym mis Tachwedd 2019, cafodd gwaharddiad Mr Berry ei ymestyn am dri mis ar ôl iddo fethu darparu tystiolaeth ei fod wedi mynd i’r afael â’i anonestrwydd.
Fe wnaeth panel adolygu addasrwydd i ymarfer gyfarfod yr wythnos diwethaf i adolygu cynnydd Mr Berry o ran cwrdd ag argymhellion y panel adolygu fis Tachwedd diwethaf.
Ni ddaeth Mr Berry i’r gwrandawiad adolygu undydd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, ond fe gyflwynodd gyflwyniad ysgrifenedig byr.
Ar ôl adolygu’r hyn a gyflwynwyd gan Mr Berry, roedd y panel o’r farn bod y cynnwys yn debyg i’r hyn a ddywedodd yn ystod y gwrandawiad gwreiddiol ym mis Mawrth 2019 a’r hyn a gyflwynodd yn ystod ei wrandawiad adolygu ym mis Tachwedd.
Oherwydd bod Mr Berry wedi methu cyflwyno tystiolaeth newydd i ddangos y cynnydd yr oedd wedi’i wneud a sut yr oedd wedi unioni ei anonestrwydd, daeth y panel i'r casgliad bod Mr Berry yn dal yn anaddas i ymarfer.
Penderfynodd y panel dynnu Mr Berry oddi ar y Gofrestr, gan nodi: “Ni fyddai ond yn briodol ymestyn y Gorchymyn Atal pe baem yn credu y byddai Mr Berry yn dod i adolygiad yn y dyfodol ac yn dangos newid sylweddol.
“Allwn ni ddim bod yn hyderus o hynny o ystyried ei absenoldeb heddiw. Mae’n siom i ni nad yw Mr Berry wedi cymryd rhan ystyrlon yn y broses adolygu.
“Rydym wedi dod i’r casgliad bod angen gwneud Gorchymyn Dileu nawr oherwydd bod Mr Berry wedi dangos diffyg dealltwriaeth parhaus, er ei fod wedi cael mwy nag un cyfle i ddangos ei fod yn deall yr hyn a wnaeth o’i le.
“Mae angen Gorchymyn Dileu er mwyn amddiffyn y cyhoedd a diogelu hyder y cyhoedd.”