Mae gweithiwr gofal cartref, wedi’i lleoli ym Mhont-y-pŵl a Glynebwy, wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Carlyanne Wilson, rhwng 30 Mehefin a 20 Gorffennaf 2020, wedi mynd i mewn i gartref unigolyn agored i niwed a oedd yn ei gofal tra bod yr unigolyn yn yr ysbyty a dwyn £250 a cherdyn banc, a’i bod hi wedi defnyddio’r cerdyn banc hwnnw’n dwyllodrus i brynu pethau i’w hun.
Wedi hynny, cafwyd Ms Wilson yn euog o ladrad a thwyll yn Llys Ynadon Casnewydd Gwent ar 29 Hydref 2020 ar ôl cyfaddef i’r troseddau.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod addasrwydd Ms Wilson i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol.
Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: “Derbyniwn fod Ms Wilson wedi ymddiheuro a mynegi edifeirwch diffuant, a derbyniwn fod y drosedd a gyflawnodd yn groes i’w chymeriad. Fodd bynnag, camfanteisiodd yn ddifrifol ar yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddi gan yr unigolyn agored i niwed a oedd yn ei gofal a’i deulu.”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Roedd ymddygiad Ms Wilson wedi torri un o ddaliadau sylfaenol y proffesiwn gofal cymdeithasol, sef na ddylai gofalwyr niweidio’r rhai hynny sy’n dibynnu arnynt. Yn ogystal, methodd â bodloni’r disgwyliadau pwysig a amlinellir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.”
Wrth esbonio ymhellach, dywedodd y panel: “Mae’n anodd iawn unioni anonestrwydd a, heblaw am ymddiheuro a mynegi edifeirwch, nid oes gennym dystiolaeth fod Ms Wilson wedi cymryd camau tuag at unioni.
“Dywedodd Ms Wilson wrth yr heddlu y bu dan bwysau ariannol difrifol ar y pryd. Rydym yn pryderu y gallai ildio i demtasiwn eto os bydd yn dioddef cyni, a deuwn i’r casgliad ei bod yn rhy fuan o lawer i ymddiried yn ei gonestrwydd a’i huniondeb.”
Penderfynodd y panel i dynnu Ms Wilson o’r Gofrestr, gan ddweud: “Dyma’r unig ganlyniad sy’n bodloni’r angen i ddiogelu’r cyhoedd rhag risg lladrad a’r angen i amddiffyn ffydd y cyhoedd trwy ddangos na fydd camfanteisio ar fynediad i gartrefi pobl gan weithwyr gofal cartref yn cael ei oddef.”
Nid oedd Ms Wilson yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos hon.