Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol am ddwyn
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol am ddwyn

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Wynedd wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol am ddwyn.

Ar 25 Mawrth 2020, ymwelodd Sarah Louise Moreland â chartref unigolyn oedrannus agored i niwed a oedd yn derbyn gofal a chymorth gan y cwmni yr oedd Ms Moreland yn gweithio iddo. Ond nid oedd gan Ms Moreland unrhyw reswm i ymweld â’r unigolyn oedrannus.

Yn ystod ei hymweliad, aeth Ms Moreland i ystafell wely’r unigolyn agored i niwed a dwyn £40. Daliwyd y weithred o ddwyn ar CCTV a osodwyd gan deulu’r unigolyn agored i niwed.

Dyfarnwyd Ms Moreland yn euog o ddwyn yn Llys y Goron Caernarfon ar 30 Tachwedd 2020 ar ôl pledio’n euog. Dyfarnwyd 40 wythnos o garchar iddi, wedi’i ohirio am 18 mis.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Ms Moreland i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol am ddwyn.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Roedd y digwyddiad hwn yn amlwg yn un annifyr iawn o safbwynt yr unigolyn agored i niwed. Hunllef waethaf unrhyw un sy’n gorfod cyflogi gofalwyr yw canfod bod y gweithiwr gofal cymdeithasol y mae wedi ymddiried ynddo wedi camfanteisio ar yr ymddiriedaeth honno.

“Roedd y drosedd a gyflawnwyd gan Ms Moreland yn ddifrifol iawn. Mae’n chwalu ffydd y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cartref.

“Trosedd ragfwriadol oedd hon yn amlwg gan nad oedd rheswm i Ms Moreland fod yng nghartref yr unigolyn agored i niwed heblaw i godi arian oddi yno. Mae’r drosedd yn amlwg yn codi amheuon ynglŷn â’i gonestrwydd, ei huniondeb a’i haddasrwydd i weithio ym maes gofal cymdeithasol.

“Dywedodd cynrychiolydd Ms Moreland yn Llys y Goron ei bod hi’n edifar, ond nodwn ei bod hi wedi gwadu dwyn i ddechrau ac nad yw wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth o graffter, edifeirwch nac unioni yn ystod yr achos hwn.”

Penderfynodd y panel i dynnu Ms Moreland o’r Gofrestr, gan ddweud: [M]ynegir edifeirwch cyfyngedig ar ffurf cyflwyniadau a wnaed gan fargyfreithiwr Ms Moreland yn ystod y gwrandawiad yn yr Uchel Lys.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Rydym wedi penderfynu bod angen gosod Gorchymyn Dileu yn yr achos hwn. Mae hynny hefyd yn gymesur â difrifoldeb trosedd Ms Moreland.”

Nid oedd Ms Moreland yn bresennol yn y gwrandawiad undydd o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.