Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o'r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o'r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Roedd Matthew Hughes yn gweithio fel gweithiwr cymorth awtistiaeth ac ymddygiad cymhleth pan gafodd fynediad i ddeunydd cyfrinachol nad oedd wedi'i awdurdodi i’w weld dro ar ôl tro rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020.

Clywodd y gwrandawiad fod Mr Hughes wedi dileu ffeiliau rheoli ar gyfrifiadur gwaith a oedd yn cynnwys cofnodion o sgyrsiau yr oedd wedi'u cael gyda'i arweinydd ymarfer, pan nad oedd wedi'i awdurdodi i wneud hynny.

Torrodd Mr Hughes reolau TG a rheolau cyfrinachedd ei gyflogwr hefyd, drwy anfon e-byst i'w gyfrif e-bost personol a oedd yn cynnwys gwybodaeth sensitif am rywun sy'n derbyn gofal a chefnogaeth.

Yn ogystal, torrodd Mr Hughes reolau diogelu data ei gyflogwr drwy storio gwybodaeth sensitif ar ei ffôn.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad fod ymddygiad Mr Hughes yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb, ac bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd ei gamymddwyn difrifol.

Wrth esbonio eu penderfyniad, dywedodd y panel: "Mae’r ffaith fod Mr Hughes wedi dileu ffeiliau rheoli yn fwriadol ac mewn ffordd anonest ac anwybyddu cyfrinachedd gwybodaeth yn faterion arwyddocaol ynddynt eu hunain sy’n gyfystyr â thorri egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, maent hefyd yn rhan o batrwm ehangach o gamymddwyn."

Penderfynodd y panel dynnu Mr Hughes oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: "Nid yw Mr Hughes wedi dangos unrhyw ddyhead nac ymrwymiad i wneud gwelliannau mewn cyfnod rhesymol o amser.

"Mae perygl y byddai'n parhau i ymddwyn yn yr un modd o ystyried nad yw'n cyfaddef unrhyw gamweddau. Mae ei ymddygiad a'i agwedd gyffredinol yn anghydnaws â chofrestru ar hyn o bryd. "

Doedd Mr Hughes ddim yn bresennol yn y gwrandawiad tri diwrnod a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, ar Zoom.