Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Gaerdydd wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Samantha Gould, ym mis Mehefin 2020, wedi methu hunanynysu yn unol â chyngor y llywodraeth ac wedi ymweld â phobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn eu cartrefi pan ddylai fod wedi bod yn hunanynysu.

Roedd Ms Gould hefyd wedi methu trefnu staff priodol ar gyfer ymweliadau â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, gan roi’r staff a’r rhai sy’n defnyddio gofal a chymorth mewn perygl o niwed. Yn ogystal, honnodd ar gam ei bod wedi galw pobl sy’n derbyn gofal a chymorth pan nad oedd hyn yn wir.

Ar ôl cael ei diswyddo gan ei chyflogwr yn dilyn gwrandawiad disgyblu, huriwyd Ms Gould gan asiantaeth ofal arall.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd Ms Gould wedi rhoi gwybod i’w chyflogwr newydd ei bod wedi cael ei diswyddo o’i rôl flaenorol a’i hatgyfeirio i Gofal Cymdeithasol Cymru. Hefyd, dywedodd ar gam wrth Gofal Cymdeithasol Cymru ei bod wedi rhoi gwybod i’w chyflogwr newydd am ei ymchwiliad.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod Ms Gould wedi gweithredu mewn ffordd a oedd yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb, a bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad trwy ddweud: “Mae rhywfaint o’r camymddwyn a brofwyd yn ddiamheuol o resynus, gan ei fod yn ymwneud â sawl gweithred o anonestrwydd a gyfeiriwyd at ddau gyflogwr gofal cymdeithasol ar wahân, ac a gyfeiriwyd at reoleiddiwr Ms Gould ei hun.

“Gellid dweud hefyd fod ymweld â chartrefi defnyddwyr gofal a chymorth sy’n agored i niwed, ar anterth pandemig byd-eang a oedd yn hawlio llawer o fywydau bob dydd, tra’i bod yn aros am brawf Covid-19, yr un mor resynus.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid oes tystiolaeth o unrhyw graffter go iawn ger ein bron, nac ychwaith dystiolaeth fod Ms Gould wedi cymryd unrhyw gamau i unioni’r gweithredoedd a arweiniodd at yr achosion o dorri’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a amlygwyd gennym.

“O ganlyniad, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth ger ein bron i ddangos p’un a yw hi wedi cymryd unrhyw gamau i sicrhau na fyddai’r ymddygiad hwn yn cael ei ailadrodd yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel i dynnu Ms Gould o’r Gofrestr, gan ddweud: “Nid ydym o’r farn y byddai unrhyw benderfyniad llai yn diogelu’r cyhoedd, o ystyried y diffyg craffter a chamau unioni yr ydym eisoes wedi cyfeirio atynt, a’r canfyddiad o anonestrwydd a wnaed gennym.”

Nid oedd Ms Gould yn bresennol yn y gwrandawiad pum niwrnod, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.