Mae gweithiwr gofal cartref o Abertawe wedi’i dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Sophie Williams, ym mis Ionawr 2020, wedi yfed alcohol a oedd yn eiddo i rywun yn ei gofal, heb ei gydsyniad, tra oedd yn gweithio.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd fod Ms Williams wedi ymddwyn mewn ffordd aflan yng nghartref y person trwy bigo ei thrwyn a sychu ei bysedd ar arwynebau’r gegin.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod addasrwydd Ms Williams i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: “Rydym wedi canfod bod Ms Williams wedi gweithredu’n anonest trwy gymryd alcohol a oedd yn eiddo i’r unigolyn a oedd yn ei gofal tra oedd yn gweithio yn ei gartref. Roedd hyn yn amlwg yn dor-ymddiriedaeth ac yn dangos diffyg parch tuag ato.
“Pe na byddai’r unigolyn cyfrifol wedi ymyrryd… byddai [Mr Williams] wedi mynd ymlaen i wneud gwaith arall dan ddylanwad alcohol, ac efallai y byddai wedi gyrru i wneud hynny.”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Roedd yr honiad ynglŷn â diffyg hylendid personol [Ms Williams] yn ddibwys o gymharu â’i hymddygiad arall. Gwnaethom ei ystyried wrth asesu ei hymddygiad cyffredinol… ond nodwyd na fyddai wedi bod yn gyfystyr ag ymddygiad difrifol ar ei ben ei hun.”
Ychwanegodd y panel: “Trwy ddangos diffyg parch tuag at yr unigolyn a oedd yn ei gofal, a’i gartref a’i eiddo, torrodd Ms Williams un o egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol.
“Er y mynegodd Ms Williams rywfaint o edifeirwch pan siaradodd ei chyflogwr â hi yn rhan o’r broses ddisgyblu, nid yw wedi cymryd rhan yn yr achos hwn ac nid yw wedi dangos ei bod wedi cymryd camau i unioni’r diffyg.”
Penderfynodd y panel i dynnu Ms Williams o’r Gofrestr, gan ddweud: “Ni fyddai unrhyw benderfyniad arall yn amddiffyn aelodau’r cyhoedd yn ddigonol.
“Gwnawn y gorchymyn hwn gyda pheth edifeirwch oherwydd tystiodd yr unigolyn cyfrifol fod arwyddion y gallai Ms Williams fod yn weithiwr gofal cymdeithasol da. Mae diffyg cyfranogiad Ms Williams wedi ein hatal rhag cymryd unrhyw gam arall.”
Nid oedd Ms Williams yn bresennol yn y gwrandawiad undydd o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.