Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Gaerdydd wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarn droseddol.

Ym mis Chwefror 2021, plediodd Shannon Vicary yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i ddau achos o drefnu neu hwyluso trosedd rhywiol i blentyn, yn groes i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, a chafodd ei dedfrydu wedyn i saith mlynedd a hanner yn y carchar.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ms Vicary wedi helpu ei phartner i gam-drin plentyn dwyflwydd oed yn rhywiol ar ddau achlysur drwy gytuno i gadw mam y plentyn i ffwrdd o’i chartref, gan adael dim ond partner Ms Vicary gyda’r plentyn.

Mae Ms Vicary bellach yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a rhaid iddi gofrestru am gyfnod amhenodol fel troseddwr rhyw.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad fod euogfarn droseddol Ms Vicary yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae hwn yn amlwg yn drosedd difrifol iawn. Yn ein barn ni, mae ymddygiad Ms Vicary wedi’i waethygu gan y ffaith ei fod wedi’i gynllunio a bod plentyn arbennig o agored i niwed wedi’i dargedu. Rydym yn canfod fod ymddygiad Ms Vicary yn anfaddeuol.”

Ychwanegodd y panel: “Nid ydym o’r farn o’r dystiolaeth sydd ar gael fod Ms Vicary wedi mynegi unrhyw edifeirwch.

“Dywedodd y barnwr, yn ei sylwadau dedfrydu, mai’r agosaf y daeth Ms Vicary i fynegi edifeirwch am yr hyn a wnaeth oedd dweud wrth awdur yr adroddiad cyn-dedfrydu mai cyflawni’r troseddau yn erbyn y plentyn oedd y peth gwaethaf a allai ddigwydd.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym hefyd o’r farn nad yw Ms Vicary wedi dangos dealltwriaeth o’i hymddygiad.

“Mae sylwadau dedfrydu’r barnwr yn cyfeirio at awdur yr adroddiad seicolegol yn dod i’r casgliad ‘er bod Ms Vicary wedi derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am y troseddau, roedd hi’n ymddangos ei bod hi’n ei chael hi’n anodd bod yn gwbl agored am ei bwriad a sut roedd hi’n rhan o’r cam-drin. Gallai peidio â chael cydnabyddiaeth lawn na syniad o sut y daeth yn rhan o’r troseddau fod yn ffactor risg yn y dyfodol.’

“Nid ydym yn credu y gellir ymddiried yn Ms Vicary a chredwn y byddai’n peri risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Vicary oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Yn ein barn ni, dyma’r unig ganlyniad sy’n diwallu’r angen i ddiogelu aelodau’r cyhoedd a’r angen i ddiogelu hyder y cyhoedd yng ngoleuni natur ddifrifol y troseddau.

“O ganlyniad i weithredoedd Ms Vicary, achoswyd niwed difrifol i fam y plentyn dan sylw ac nid yw’n glir eto faint o niwed a wnaed i’r plentyn.

“Rydym yn canfod bod ymddygiad Ms Vicary yn gwbl anghydnaws â rôl gweithiwr gofal cymdeithasol.”

Nid oedd Ms Vicary yn bresennol yn y gwrandawiad a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.