Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd euogfarn droseddol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithwraig gofal cartref o Fangor wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod fod ei heuogfarn droseddol yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Nerys Williams wedi cael ei harestio ym mis Mehefin 2020 ar ôl i’r heddlu gael gwybod gan rywun dienw am ddigwyddiad honedig mewn parti tŷ, a oedd yn torri cyfyngiadau Covid-19.

Gwrthododd Ms Williams gael ei harestio ac ymosododd ar dri heddwas drwy slapio a tharo un swyddog yn ei ben, cicio swyddog arall a brathu un arall mor ddifrifol nes bod yn rhaid iddynt gael sylw meddygol.

Cafodd Ms Williams ei dyfarnu’n euog yn Llys Ynadon Llandudno ar 15 Mehefin 2020 o dri achos gwahanol o ymosod ar weithwyr brys. Cafodd ei dedfrydu i chwe mis yn y carchar am bob trosedd, a gorchymyn i dalu tâl ychwanegol i’r dioddefwyr.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod euogfarn droseddol Ms Williams yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Eglurodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: “Dangosodd [Ms Williams] ddiffyg crebwyll proffesiynol llwyr, ac roedd ei hymddygiad ymosodol a gwrthgymdeithasol wedi peri iddi niweidio swyddogion yr heddlu’n uniongyrchol. Rydym o’r farn y byddai ymddygiad Ms Williams yn codi amheuon ynghylch ei haddasrwydd i weithio yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.

“Er nad oes gennym dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw risg y byddai Ms Williams yn ymddwyn yn dreisgar tuag at unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, rydym yn bryderus y gallai fod wedi rhoi defnyddwyr gwasanaeth mewn perygl drwy ddychwelyd i’r gwaith ar ôl ymgasglu mewn digwyddiad cymdeithasol mawr yn groes i gyfyngiadau Covid-19.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Williams oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Mae Ms Williams wedi dangos diffyg parch amlwg at y safonau proffesiynol perthnasol a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, ac wedi gwyro’n ddifrifol oddi wrth y safonau hynny.

Ychwanegodd y panel: “Rydym wedi penderfynu y byddai hyder yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio wrth ganiatáu i Ms Williams aros ar y Gofrestr. Nid ydym yn credu bod unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd oherwydd nad oes fawr o oleuni na thystiolaeth y bydd ei diffyg yn debygol o gael ei adfer yn foddhaol.”

Nid oedd Ms Williams yn bresennol yn y gwrandawiad undydd o bell, a gynhaliwyd dros Zoom ar 19 Mawrth 2021.