Mae gweithiwr gofal cartref o Fangor wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Christine Roberts wedi torri Polisi Gyrru i’r Gwaith ei chyflogwr ar 6 Awst 2020 drwy yfed alcohol cyn ei shifft a gyrru i’r gwaith ac yn ystod ei shifft pan nad oedd yn ffit i wneud hynny.
Dywedwyd wrth y panel bod cydweithiwr i Ms Roberts, a oedd yn darparu gofal a chymorth i bobl yn eu cartrefi gyda hi y diwrnod hwnnw, wedi disgrifio Ms Roberts gan ddweud ei bod yn siarad yn aneglur, bod ganddi lygaid coch, roedd hi’n baglu dros ei thraed ei hun, yn arogli o alcohol ac yn ymddwyn mewn ffordd ecsentrig yn ystod y shifft.
Hefyd, dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd Ms Roberts wedi gwisgo masg wyneb bob amser wrth ddarparu gofal a chymorth yn ystod ei shifft.
Ar ôl clywed y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad fod addasrwydd i ymarfer Ms Roberts wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.
Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Roedd Ms Roberts wedi mynd i weithio gydag unigolion agored i niwed ond nid oedd yn ffit i wneud hynny. Mae mynd i gartref rhywun yn arogli o alcohol yn debygol iawn o danseilio ymddiriedaeth yr unigolyn sy’n derbyn gofal a chymorth a’i berthnasau.
“Roedd yr ymddygiad hwn yn debygol o ddwyn anfri ar y gweithlu gofal cartref. Mae’n golygu methu â glynu wrth yr egwyddorion sylfaenol y dylid darparu gofal cymdeithasol mewn modd sy’n sicrhau diogelwch yr unigolion sy’n derbyn gofal yn ogystal â chynnal hyder y cyhoedd.
Ychwanegodd y panel: “Nid yw Ms Roberts wedi cyflwyno unrhyw wybodaeth i ddangos bod y risg wedi’i lliniaru yn y dyfodol. Mae patrwm ei hymddygiad yn y gorffennol yn golygu nad ydym yn hyderus na fyddai digwyddiad tebyg yn digwydd eto pe bai’n rhydd i ddychwelyd i ymarfer heb gymryd camau amddiffynnol.”
Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Roberts oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydym wedi penderfynu ei bod yn angenrheidiol ac yn briodol gwneud Gorchymyn Dileu o ystyried y risgiau sy’n deillio o ymddygiad Ms Roberts a’i diffyg dirnadaeth parhaus. Does dim ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd yn y tymor hwy.”
Nid oedd Ms Roberts yn bresennol yn y gwrandawiad a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.