Mae gweithiwr cymdeithasol o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Roedd Sharon Williams yn gweithio i Gyngor Sir Gâr ym mis Rhagfyr 2018, yn cynorthwyo oedolion agored i niwed â phroblemau iechyd meddwl difrifol, pan dorrodd reolau cyfrinachedd trwy enwi unigolyn agored i niwed a oedd yn ei gofal ar gyfryngau cymdeithasol.
Cyfaddefodd Ms Williams, a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad pedwar diwrnod a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos ddiwethaf, enwi’r unigolyn agored i niwed ar Facebook. Yn ogystal, cyfaddefodd ddefnyddio canabis yn ddyddiol a’i ysmygu’n agored mewn postiadau Facebook.
Yn dilyn y digwyddiadau, cafodd Ms Williams ei hatal dros dro o’i gwaith gan y Cyngor, ac ymddiswyddodd yn ddiweddarach.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ms Williams, tra’i bod wedi’i hatal o’i gwaith dros dro, wedi cyfaddef ymweld â pherthnasau cyn gleient yn eu cartref. Cyfaddefodd hefyd fygwth rhannu gwybodaeth gyfrinachol am bobl sy’n derbyn gofal gan y Cyngor ar ôl iddi ymddiswyddo, gan orfodi’r Cyngor i gael gwaharddeb i’w hatal.
Wrth ymddangos gerbron y panel, heriodd Ms Williams y cyhuddiad bod ei bygythiadau i rannu gwybodaeth gyfrinachol yn dangos diffyg uniondeb, ac nad oedd ganddi unrhyw fwriad go iawn i ddatgelu’r wybodaeth.
Ond ar ôl ystyried y dystiolaeth, canfu’r panel fod Ms Williams wedi gweithredu mewn ffordd a oedd yn dangos diffyg uniondeb a bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Esboniodd y panel ei benderfyniadau i Ms Williams, gan ddweud wrthi: “[N]i allai eich gweithredoedd wrth fygwth datgelu gwybodaeth gyfrinachol am ddefnyddwyr gwasanaethau agored i niwed gael eu categoreiddio’n deg nac yn briodol fel unrhyw beth heblaw am dorri safonau moesegol y proffesiwn gofal cymdeithasol, ac felly roedd canfyddiad o ddiffyg uniondeb yn anochel.”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Mae’r ffaith bod yr ymddygiad yng nghyhuddiadau 1-5 wedi cael ei gyflawni gan unigolyn y mae ganddo rwymedigaeth broffesiynol i ddiogelu lles unigolion agored i niwed – y mae gan rai ohonynt broblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus – yn gywilyddus ac yn peri gofid i ni.
“Mae ymddwyn yn y ffordd a gyfaddefoch ac a brofwyd gennym ymhell islaw’r safon a ddisgwylir gan weithwyr gofal cymdeithasol, ac yn amlwg iawn yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.”
Penderfynodd y panel i dynnu Ms Williams o’r Gofrestr, gan ddweud: “Nid oes tystiolaeth eich bod wedi cymryd unrhyw gamau unioni rhwng yr adeg y cyfeirir ati yn y cyhuddiadau a dyddiad y gwrandawiad hwn, ac mae eich safbwynt wedi ymwreiddio’n ddyfnach mewn rhai ffyrdd.
“Rydym wedi canfod bod perygl niwed yn parhau i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, a bod perygl go iawn o ailadrodd y materion rydych wedi cyfaddef iddynt, ac a brofwyd gennym.”
Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Rydym wedi penderfynu, felly, ar sail y dystiolaeth sydd ger ein bron, mai Gorchymyn Dileu yn unig fydd yn ddigonol.