Jump to content
Tynnu enw rheolwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu enw rheolwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei chamymddygiad difrifol yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Roedd Clare Stephenson yn gweithio fel rheolwr un o wasanaethau’r Groes Goch Brydeinig yn cefnogi pobl a oedd wedi cael eu rhyddhau’n ddiweddar o’r ysbyty, pan gafodd ei chyhuddo o ddweud wrth un o’i chydweithwyr am gadw tystiolaeth yn ôl oddi wrth yr heddlu a dweud celwydd wrthynt.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod y cydweithiwr, sef gweithiwr cefnogi cymunedol, ym mis Mehefin 2018, wedi ceisio ymweld â chartref dyn angheuol wael a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth, ond nid oedd wedi gallu cael mynediad.

Pan ddychwelodd i’r tŷ ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, canfu’r gweithiwr cefnogi cymunedol fod y dyn wedi marw. Pan wnaeth y gweithiwr ffonio Ms Stephenson, dywedwyd wrthi am beidio â dweud wrth yr heddlu ei bod wedi ceisio ymweld â’r dyn ychydig ddyddiau ynghynt ac y dylai ddweud wrthynt mai’r tro diwethaf iddi ei weld yn fyw oedd ddau ddiwrnod cyn iddi fethu â cheisio ymweld.

Pan ymddangosodd Ms Stephenson gerbron y panel, roedd yn anghytuno â’r ffeithiau a gyflwynwyd a dywedodd nad oedd wedi dweud wrth y gweithiwr cefnogi cymunedol i ffugio ei thystiolaeth.

Ond ar ôl ystyried y dystiolaeth, canfu’r panel fod y cyhuddiadau wedi’u profi, gan ddod i’r casgliad bod Ms Stephenson wedi ymddwyn mewn ffordd anonest a heb uniondeb, a bod camymddwyn difrifol yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Eglurodd y panel ei benderfyniad drwy ddweud: “Rydym yn canfod bod Ms Stephenson wedi methu â derbyn perchnogaeth dros ei hymddygiad ac nad yw wedi dangos dealltwriaeth o’i gweithredoedd. Oherwydd natur ymddygiad Ms Stephenson, rydym o’r farn y gallai beri risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Mottram oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydym yn ystyried bod y camau a gymerwyd gan Ms Stephenson yn ddigon difrifol i gyfiawnhau gosod Gorchymyn Tynnu Enw.

Ychwanegodd y panel: “Mae hi wedi dangos gwyriad difrifol oddi wrth y safonau proffesiynol perthnasol a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, ac rydym yn teimlo bod ei hymddygiad yn sylfaenol anghydnaws â bod yn berson cofrestredig.”

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal o bell dros dri diwrnod rhwng 10 a 12 Tachwedd.