Jump to content
Tynnu dau weithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr am gamymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu dau weithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr am gamymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae dau weithiwr gofal preswyl i blant o Wynedd wedi cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod eu camymddygiad difrifol wedi amharu ar eu haddasrwydd i ymarfer.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Richard Burnell a Kyle Johnson wedi lapio person ifanc 15 oed agored i niwed a oedd yn eu gofal mewn ‘cling ffilm’ a thâp tra oeddent yn aros mewn carafán.

Dangoswyd ffotograffau a fideos o’r digwyddiad i’r gwrandawiad, ac yn y clipiau fideo, gellid clywed Mr Burnell a Mr Johnson yn gwneud sylwadau amhriodol, sarhaus a diraddiol o natur rywiol i’r dyn ifanc tra oedd wedi’i glymu.

Ni wnaeth y naill weithiwr gofal unrhyw ymgais i atal ymddygiad y llall, er bod ganddynt gyfrifoldeb proffesiynol i wneud hynny.

Daeth yr ymddygiad amhriodol i’r amlwg pan ddarganfu mam y person ifanc 15 oed luniau a fideos o’r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol ei mab a hysbysu rheolwyr y cartref ohono.

Dywedodd y gŵr ifanc yn ddiweddarach wrth weithiwr cymdeithasol mai jôc oedd y digwyddiad a’i fod wedi gofyn i’r gweithwyr ei glymu.

Ond dywedodd rheolwr cofrestredig y cartref a’r dirprwy reolwr wrth y gwrandawiad eu bod yn gofidio am yr hyn a welsant yn y fideos.

Ar ôl gweld a chlywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod camymddygiad difrifol Mr Burnell a Mr Johnson wedi amharu ar eu haddasrwydd presennol i ymarfer.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Fe wnaeth Mr Johnson a Mr Burnell ymddwyn mewn ffordd gwbl annerbyniol.

“Fe wnaethant ddefnyddio iaith amhriodol iawn ac ymddwyn mewn ffordd a oedd yn debygol o ddychryn y person ifanc. Ar ôl ystyried ymddygiad pob unigolyn yn ofalus, rydym wedi dod i’r casgliad eu bod ill dau wedi ymddwyn yn warthus.

“Mae hyn yn amlwg yn achos lle mae budd y cyhoedd yn ystyriaeth bwysig. Ysgrifennodd mam y person ifanc mai’r ‘rhan anoddaf i mi yw ein bod ni wedi’i roi [ef] mewn gofal i’w gadw’n ddiogel ac mewn gwirionedd, nid oedd yn ddiogel yno’.

“Effeithiodd y digwyddiad ar ei hyder hi’n ddifrifol a byddem yn disgwyl i aelod rhesymol o’r cyhoedd gael ei ysgwyd gan ymddygiad y ddau ofalwr.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Burnell a Mr Johnson oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydym wedi penderfynu bod angen cyflwyno Gorchymyn Dileu er mwyn diogelu’r cyhoedd a hyder y cyhoedd.”

Nid oedd Mr Burnell na Mr Johnson yn bresennol yn y gwrandawiad tri diwrnod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.