Jump to content
Tynnu dau reolwr cartref gofal i oedolion oddi ar y Gofrestr
Newyddion

Tynnu dau reolwr cartref gofal i oedolion oddi ar y Gofrestr

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae dau reolwr cartref gofal i oedolion o Gaerffili wedi cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod eu haddasrwydd i ymarfer wedi’u hamharu ar hyn o bryd.

Roedd Tina-Louise Cullen a William Jones wedi ymddangos gerbron pwyllgor addasrwydd i ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yr hydref diwethaf.

Canfu’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod eu haddasrwydd i ymarfer wedi’u hamharu oherwydd eu gweithredoedd anaddas a’u methiannau difrifol fel rheolwyr mewn cartref gofal yng Nghaerffili rhwng 2014 a 2015, a arweiniodd at fethiannau gofal, ac a gyfrannodd at farwolaeth dau breswylydd.

Ar ôl ystyried penderfyniad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a’r dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno, penderfynodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru nad yw’r pâr yn addas i ymarfer fel gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ar hyn o bryd chwaith.

Wrth egluro eu penderfyniad, dywedodd y panel: “Er bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ymdrin â Ms Cullen a Mr Jones fel nyrsys cofrestredig, yn ein barn ni, ni ellir datgysylltu’r materion hyn â’r ffaith bod Ms Cullen a Mr Jones hefyd wedi cofrestru fel rheolwyr cartref gofal i oedolion.”

Gan gyfeirio’n benodol at Ms Cullen, dywedodd y panel: “Nid yw [Ms Cullen] wedi cyfrannu llawer at yr achosion hyn, nid yw wedi cydnabod ei methiannau amlwg, nid yw wedi dangos edifeirwch na thrugaredd, nac ychwaith wedi cymryd unrhyw gamau adfer a allai ein harwain ni at y casgliad ei bod hi wedi unioni ei methiannau niferus (difrifol).”

Yn achos Mr Jones, dywedodd y panel: “Er bod Mr Jones wedi cydnabod ei fethiannau ac wedi datgan edifeirwch a thrugaredd at y preswylwyr, nid yw wedi cymryd unrhyw fath o gamau adfer a allai ein harwain ni at y casgliad ei fod wedi unioni ei fethiannau (difrifol) fel rheolwr. Mae ei gynrychiolwyr wedi derbyn hyn.

“Felly, rydyn ni’n fodlon, heb unrhyw gamau adfer, y byddai Mr Jones yn rhoi unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth mewn perygl os byddai’n dychwelyd i ymarfer fel rheolwr cartref gofal i oedolion.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Cullen a Mr Jones oddi ar y Gofrestr, gan ddweud:

“Rydyn ni’n credu mai dim ond y Gorchymyn Dileu fyddai’n briodol yn achos Ms Cullen a Mr Jones oherwydd eu bod wedi torri ymddiriedaeth. Roedd yna risg o niweidio iechyd, diogelwch a llesiant pobl agored i newid, ac mewn un achos, fe gyfrannodd at farwolaeth un preswylydd.”

Cynhaliwyd y gwrandawiad dau ddiwrnod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.