Jump to content
Y Grŵp Gwybodaeth - ein gwasanaeth ymchwil, data, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol
Newyddion

Y Grŵp Gwybodaeth - ein gwasanaeth ymchwil, data, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol

| Y Grŵp Gwybodaeth

Rydyn ni wedi lansio gwasanaeth ymchwil, data, arloesi a gwella newydd o’r enw y Grŵp Gwybodaeth.

Trwy'r gwasanaeth hwn, byddwn ni'n darparu mynediad i'r ymchwil a'r data diweddaraf, canllawiau ar gyfer hyfforddiant, cyfleoedd i gydweithio, a chyngor ar y cymorth sydd ar gael.

Mae gwefan newydd y Grŵp Gwybodaeth yn fan lle gall pobl sy’n darparu neu’n cael mynediad at ofal drafod y pynciau sydd o bwys iddyn nhw, rhannu eu gwybodaeth, a magu eu hyder.

Mae yna hefyd ganllaw i ddigwyddiadau i helpu i adeiladu gwell darlun o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru a thu hwnt.

Nod y Grŵp Gwybodaeth yw cydweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol.

Mae’n cefnogi hyn drwy ganolbwyntio ar dri maes allweddol – ymchwil a data, rhannu a dysgu, ac anogaeth a chyngor.

Ymchwil a data

Dywedoch chi wrthym ni y gall dod o hyd i ymchwil gyfredol sy'n berthnasol i'ch ymarfer fod yn her.

Rydyn ni am i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol deimlo’n hyderus, yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddefnyddio tystiolaeth.

I’ch helpu gyda hyn, rydyn ni’n cynhyrchu crynodebau tystiolaeth sy’n cyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn ffyrdd sy’n haws eu deall, ac yn cefnogi mynediad i erthyglau cyfnodolion academaidd fel y gallwch chi ddatblygu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth.

Rydyn ni wedi llunio cynnig cymorth i ymchwilwyr sy’n dangos y gwahanol ffyrdd y gallwn helpu ymchwilwyr academaidd mewn gofal cymdeithasol, a byddwn ni'n gweithio gyda phobl sy’n defnyddio ac yn darparu gofal i osod blaenoriathau ymchwil a fydd yn annog ymchwil newydd.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i ddata am ofal cymdeithasol a phynciau cysylltiedig ar Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru. Mae’r porth yn dod â data ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ynghyd, a’i nod yw ei gwneud yn hawdd dod o hyd iddo a’i ddefnyddio

Rhannu a dysgu

Mae dysgu - a rhannu ein dysgu – yn rhan bwysig o'r Grŵp Gwybodaeth, felly rydyn ni wedi datblygu pecyn o wasanaethau i'ch helpu i gysylltu â chyfoedion ac arbenigwyr a dysgu ganddyn nhw.

Rydyn ni wedi creu’r porwr prosiectau i ledaenu syniadau a helpu pobl i ddysgu o ymarfer trwy rannu gwybodaeth am y gwaith, ble mae'n digwydd, pwy sy'n cymryd rhan, a sut i ddarganfod mwy. Ei nod yw helpu pobl i gysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Mae ein llyfrgell hyfforddiant yn rhestru cyfleoedd i wella sgiliau data a dadansoddi, gan helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gasglu'r dystiolaeth orau i gefnogi eu gwaith.

Ar ein tudalennau digwyddiadau, gallwch chi ddod o hyd i amrywiaeth o ddigwyddiadau yng Nghymru sy'n ymwneud â gwella a datblygu gofal cymdeithasol.

Mae ein cymunedau yn fannau lle gallwch chi gysylltu â phobl sydd mewn rolau tebyg, ac sy'n wynebu heriau tebyg. Maen nhw’n dod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol, arloeswyr a phobl â phrofiad byw ynghyd i greu'r egni a'r momentwm ar gyfer newid.

Anogaeth a chyngor

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i’ch arwain drwy’r broses o wneud gwaith ymchwil, data ac arloesi a deall ei effaith ar bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Ar ein tudalennau anogaeth, gallwch chi ddarganfod mwy am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim. Mae ein anogwyr wrth law i'ch helpu chi i ddod â'ch syniadau yn fyw. Maen nhw’n gallu eich cefnogi i ddatblygu a phrofi eich syniad yn ddiogel, gan gynnig hyd at 12 awr o gymorth pwrpasol dros gyfnod o chwe wythnos.

Gallwn ni hefyd eich cefnogi i ddeall effaith eich gwaith a mesur y gwahaniaeth y mae’n ei wneud. Gallwn ni wneud y broses werthuso yn haws i’w deall, nodi’r newidiadau rydych chi’n ceisio eu gwneud, ac archwilio pa offer mesur fyddai’n fwyaf priodol i gynhyrchu dysgu ac adrodd effeithiol. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar ein tudalennau gwerthuso a Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).

Ewch i'r Grŵp Gwybodaeth

Darganfyddwch fwy am ein gwasanaeth newydd drwy fynd i wefan y Grŵp Gwybodaeth.

Dim ond rhan fach o’n cynnig ymchwil, data, arloesi a gwella yw’r wefan newydd.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.