Data’r gweithlu yw un o’r setiau data a gasglwn yn y Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i Gymru. Nod hwn yw helpu awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a phartneriaid eraill i ddeall y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gwnaethom wahodd ein partneriaid data’r gweithlu i weithdy ar 7 Ionawr 2020 i ddysgu pa broblemau ac anawsterau a gânt wrth gasglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol.
Bu’r digwyddiad yn boblogaidd, gyda chynrychiolwyr yn bresennol o awdurdodau lleol, y byrddau partneriaeth rhanbarthol, Llywodraeth Cymru, Data Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Nod y gweithdy oedd dechrau trafodaeth ynghylch p’un a ydym yn casglu’r wybodaeth gywir, a deall yr anawsterau wrth gasglu data a sut y gallwn symleiddio’r broses hon.
Rhoddodd Mike Docherty, Rheolwr Gwybodaeth am y Gweithlu o Gyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, cyflwyniad ar y ffordd y caiff data tebyg ar y gweithlu ei gasglu yn yr Alban a’r rhwystrau a gawsant wrth wneud.
Cynhaliom ddwy sesiwn grŵp i ddechrau adolygu’r data presennol rydym ni’n ei gasglu ac i ddarganfod pa broblemau mae ein partneriaid yn eu hwynebu wrth iddynt roi eu data i ni.
Amlygodd y gweithdy anawsterau yn y meysydd canlynol:
- systemau TG – mae angen system syml ar y we, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol a darparwyr fewnbynnu data yn uniongyrchol
- ansawdd data – mae angen diffiniadau ac arweiniad gwell am yr hyn rydym ni am ei gasglu fel bod pawb yn darparu’r un wybodaeth heb ddyblygu
- prosesau – proses wedi’i symleiddio o gasglu data, dan arweiniad un sefydliad.
Gofynnom i’r rhai a fynychodd roi gwybod os fyddai diddordeb ganddynt fod yn rhan o grŵp llywio i’n helpu i wneud gwelliannau o ddiddordeb iddynt. Ers hynny, rydym wedi cael nifer o geisiadau a byddwn yn gwneud ein penderfyniad cyn bo hir.
I adolygu rhywfaint o’r data a gadwn ar y gweithlu ar hyn o bryd, ewch i’r Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i Gymru.
Os hoffech ddysgu rhagor am weithdai sy’n mynd rhagddynt neu os byddai bod yn rhan o’n grŵp llywio o ddiddordeb i chi, cysylltwch â Gwyndaf Parry neu Catherine Price.