Jump to content
Cwblhewch ein harolwg peilot cyn y dyddiad cau ar 4 Mai
Newyddion

Cwblhewch ein harolwg peilot cyn y dyddiad cau ar 4 Mai

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gan aelodau'r gweithlu cofrestredig tan ddydd Iau 4 Mai i gwblhau ein harolwg peilot.

Mae mwy na 3,000 ohonoch eisoes wedi llenwi'r arolwg, sy'n gofyn cwestiynau ar bynciau fel llesiant, sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, tâl ac amodau, hyfforddiant a chymwysterau.

Gwahoddwyd pawb ar y gofrestr i gymryd rhan drwy e-bost yn ystod mis Ebrill. Bydd yr ymateb i'r arolwg yn dylanwadu ar ba un a gaiff ei gyflwyno wedyn bob blwyddyn.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan asiantaeth ymchwil o Abertawe, Opinion Research Services (ORS). Mae’r arolwg, a’r hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni, yn cael ei gefnogi gan gyrff sy’n gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’n debyg mai’r tair blynedd diwethaf yw’r rhai anoddaf o ran cof byw i ofal cymdeithasol yng Nghymru ac nid yw pethau’n haws o lawer nawr. Mae difrod Covid a’r argyfwng costau byw wedi’i gwneud hi’n arbennig o heriol parhau i ddarparu gofal a chymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

“Dyna pam rydyn ni eisiau rhoi llais i weithwyr gofal cymdeithasol drwy’r arolwg hwn, er mwyn iddyn nhw allu dweud wrthym sut mae pethau mewn gwirionedd. Gyda'r wybodaeth hon, gallwn sicrhau bod ein gwaith yn eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol.

“Rydym yn sylweddoli’r pwysau y mae pobl yn gweithio oddi tano a chyn lleied o amser sydd ganddynt y dyddiau hyn. Felly, mae’n debyg nad yw llenwi arolwg yn uchel ar eu rhestr o flaenoriaethau. Ond rydym yn gofyn am 15 munud o amser pobl i roi eu barn. Gallai fod yn amser a dreuliwyd yn dda iawn.”

Cwestiynau cyffredin

Gall gweithwyr a wahoddir i gymryd rhan yn yr arolwg gael rhagor o wybodaeth yn yr atebion i gwestiynau cyffredin yma.