Jump to content
Adroddiad yn datgelu’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu dadansoddwyr data gofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Adroddiad yn datgelu’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu dadansoddwyr data gofal cymdeithasol yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ymchwil i ddarganfod mwy am y bobl sy’n gweithio gyda data yng ngwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol wedi datgelu’r cyfleoedd a’r heriau mwyaf y maent yn eu hwynebu.

Canfu Social Finance, cwmni ymgynghori di-elw a gynhaliodd yr ymchwil hwn ar ein rhan, fod gan weithwyr ystod eang o sgiliau data cyffredinol ond bod angen mwy o gymorth arnynt i ddod yn fedrus wrth gasglu data gofal cymdeithasol. Canfu hefyd fod llawer o ddadansoddwyr data yn dibynnu ar ddatblygu sgiliau yn y gweithle yn hytrach na chael hyfforddiant ffurfiol.

Mae’r ymchwil yn parhau â gwaith ein hymagwedd strategol at ddata gofal cymdeithasol yng Nghymru. Daeth â mwy nag 80 o bobl ynghyd o awdurdodau lleol, gofal iechyd, addysg uwch a sefydliadau’r llywodraeth ledled Cymru a gymerodd ran mewn gweithdai, cyfweliadau ac arolwg.

Dywedodd Owen Davies, ein Rheolwr Data a Gwybodaeth: “Roedd gennym ddiddordeb mewn dysgu mwy am y bobl sy’n gweithio ym maes data o fewn gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, felly ar ddechrau 2022 fe wnaethom gomisiynu Social Finance i ymchwilio i hyn.

“Yn benodol, roedden ni eisiau darganfod sut mae pobl yn dod i weithio mewn rolau data gofal cymdeithasol, sut maen nhw’n ennill sgiliau a pha gyfleoedd sydd ganddyn nhw ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a dilyniant gyrfa. Roeddem hefyd eisiau gwybod a fyddai’n ddefnyddiol cyflwyno fframwaith datblygiad proffesiynol ffurfiol i helpu i wella sgiliau pobl.”

Canfu’r ymchwil dystiolaeth o ystod o sgiliau a galluoedd ar gyfer defnyddio data’n effeithiol a bod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn rhannu nifer o’r un problemau â sgiliau data â llawer o sefydliadau sector cyhoeddus eraill.

Ychwanegodd Owen Davies: “Dywedodd y rhan fwyaf o ddadansoddwyr wrthym eu bod wedi dysgu eu sgiliau yn y gwaith, gan fod cyfleoedd hyfforddi i ddadansoddwyr data yn gallu bod yn ddrud. Canfuom hefyd nad yw rheolwyr timau data bob amser yn deall pa gyrsiau y dylent anfon eu staff arnynt a bod y cyrsiau mewnol a gynigir yn ymdrin â phynciau fel llywodraethu data yn unig.

“Canfu’r ymchwil hefyd fod y dadansoddwyr data angen sgiliau data technegol a gwybodaeth dda am ofal cymdeithasol i fod fwyaf llwyddiannus. Gall fod yn anodd i gasglu’r wybodaeth yma heb llawer o brofiad yn y swydd.”

Mewn ymateb i ganfyddiadau’r ymchwil, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion a allai helpu i gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes data o fewn gofal cymdeithasol. Mae’r argymhellion yn cynnwys cyflwyno cyfres o brosiectau ar raddfa fach, megis creu llyfrgell o adnoddau hyfforddi a thorfoli swydd ddisgrifiadau i weld a yw hyn yn helpu’r gweithlu i ddatblygu.

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion llawn yn yr adroddiad terfynol, sydd ar gael i’w lawrlwytho isod.

Gweld yr adroddiad