Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn heini ac yn iach, ac efallai nad ydyn nhw’n meddwl am bwy fyddai’n eu helpu pe baent yn cael damwain, cyflwr iechyd, anabledd neu salwch a oedd yn golygu eu bod yn ddibynnol ar bobl eraill i gael gofal a chymorth.
Nid yw llawer ohonom yn meddwl am heneiddio a mynd yn fwy bregus, felly mae’n debyg nad ydyn ni’n paratoi’n ddigonol ar gyfer newidiadau a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Efallai nad ydyn ni’n meddwl am riant sy’n cael anhawster cadw ei blant yn ddiogel a darparu cartref teuluol cariadus iddo, lle bydd y plant yn gallu ffynnu a thyfu yn bobl ifanc iach ac annibynnol.
Yn ffodus, mae teulu, cymdogion a ffrindiau gan y rhan fwyaf o bobl sy’n gallu darparu cymorth ymarferol ac emosiynol, ac mae llu o sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy’n darparu help hanfodol ledled Cymru.
Weithiau, mae angen lefelau uwch o warchodaeth a chymorth, a dyna ble mae arbenigedd a sgiliau gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn amhrisiadwy.
Gall eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol, ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’n helpu ni gadw’n ddiogel, aros yn annibynnol, rheoli ein bywydau a chynnal ein llesiant cyhyd ag y gallwn wneud hynny.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â dyfodol gofal cymdeithasol, yn cynnwys y ffordd orau rydym ni, fel cenedl, yn gwneud yn siŵr bod cymorth gofal cymdeithasol yno i bob un ohonom, pan fydd ei angen arnom.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud hefyd ei bod am ddod o hyd i ateb hir dymor ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol.
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhad ac am ddim yn y man darparu, ond mae gofal cymdeithasol yn dibynnu ar brawf modd, sy’n golygu bod rhai pobl yn talu tuag at eu gofal.
Pan fydd pobl yn talu, maent yn cyfrannu at gost gofal ei hun ac mae awdurdodau lleol yn rhoi cymhorthdal tuag at y costau hynny.
Gyda’r galw am ofal a chymorth yn cynyddu, gan adlewyrchu anghenion cynyddol o fewn y boblogaeth, mae awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd bodloni’r anghenion presennol ac anghenion y dyfodol.
Mae dymuniad cryf i drawsnewid a gwella’r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu, yn cynnwys atal ac ymyrryd yn gynnar, a’i wneud yn fwy cydnaws â gwasanaethau iechyd, tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae hyn yn heriol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, lle nad yw cyllidebau awdurdodau lleol wedi cynyddu digon i fodloni pwysau costau sy’n deillio o alw cynyddol am eu holl wasanaethau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ystod o opsiynau i godi mwy o incwm y gellid ei dargedu tuag at ofal cymdeithasol, a byddant yn trafod hyn yn ystod 2020.
Mae pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wrthi’n paratoi eu maniffestos ar gyfer yr etholiad yn 2021, ac mae gofal cymdeithasol yn debygol o gael ei gynnwys yn eu blaenoriaethau i weithredu arnynt.
Os oes diddordeb gennych i helpu Llywodraeth Cymru heddiw ac yfory i ddod o hyd i ateb cynaliadwy i fodloni anghenion gofal cymdeithasol y dyfodol, cadwch olwg am ffyrdd i chi allu dweud eich dweud, ar wefan Llywodraeth Cymru.