Jump to content
Pleidlais bellach ar agor i ddewis enillydd gyntaf y wobr Gofalwn Cymru
Newyddion

Pleidlais bellach ar agor i ddewis enillydd gyntaf y wobr Gofalwn Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r bleidlais bellach ar agor i ddewis enillydd ar gyfer y wobr Gofalwn Cymru gyntaf.

Mae’r wobr yn rhan o’r Gwobrau, gwobrau sy’n cael eu trefnu gennym ni sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru.

Mae’r wobr Gofalwn Cymru yn newydd ar gyfer 2020 a dyma’r tro cyntaf i’r Gwobrau cydnabod a dathlu gweithwyr gofal unigol.

Mae’r wobr wedi’i hanelu tuag at weithwyr gofal neu wirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ac yn eu helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Enwebwyd mwy na 70 o weithwyr gofal ar gyfer y wobr a bu panel o feirniaid yn llywio’r enwebeion i’r pump terfynol.

Rydyn ni nawr yn gofyn i aelodau’r cyhoedd i bleidleisio am y gweithiwr gofal y maen nhw’n credu dylai ennill y wobr Gofalwn Cymru gyntaf.

Bydd y bleidlais ar agor tan ddydd Gwener, 16 Hydref 2020 a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn seremoni wobrwyo rhithwir y Gwobrau ar ddydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r pum gweithiwr gofal sydd wedi cael eu dewis gan ein panel o feirniaid i gyrraedd rownd derfynol y Wobr gyntaf ar gyfer gweithwyr gofal unigol.

“Rydyn ni’n gwybod bod gofal rhagorol yn cael ei darparu ar draws Cymru a bod llawer o weithwyr yn mynd y tu hwnt i’w ddyletswyddau.

“Mae’r pum person hyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn adlewyrchu’r ehangder o ofal eithriadol sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru a hoffwn i’u longyfarch i gyd am gyrraedd y rownd derfynol.

“Bydd y bleidlais gyhoeddus ar agor tan 16 Hydref, felly cymerwch ran trwy bleidleisio a’n helpu ni i ddewis pa un o’r gweithwyr gofal gwych hyn y dylid ei goroni fel enillydd gyntaf-erioed y wobr Gofalwn Cymru.”