Jump to content
Pam mae mor bwysig i allu derbyn gofal gan rywun sy’n siarad eich iaith chi
Newyddion

Pam mae mor bwysig i allu derbyn gofal gan rywun sy’n siarad eich iaith chi

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae gallu derbyn gofal a chymorth gan rywun sy’n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel.

Dyna pam roedd Gofalwn Cymru wedi noddi Diwrnod Gofal yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn gynharach y mis hwn.

Nod y diwrnod oedd hyrwyddo pwysigrwydd gallu derbyn gofal a chymorth yn yr iaith o’ch dewis a denu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r sector gofal.

Roedd tîm Gofalwn Cymru yn yr Eisteddfod i annog siaradwyr Cymraeg ar bob lefel i ystyried gyrfa ym maes gofal a hyrwyddo ei gyrsiau hyfforddi am ddim sy’n rhoi blas i bobl ar sut beth yw gweithio ym maes gofal.

Gwnaethom hefyd drefnu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau fel Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhan o’r dydd, a’r cyntaf ohonynt oedd coroni enillydd ein gwobr flynyddol Gofalu trwy’r Gymraeg.

Mae’r wobr yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith pobl sy’n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyrhaeddodd pum unigolyn o bob rhan o Gymru y rownd derfynol ar gyfer gwobr eleni. Cynhaliwyd pleidlais gyhoeddus i benderfynu ar yr enillydd, y cymerodd bron 2,300 o bobl ran ynddi.

Enillwyd y wobr gan Ross Dingle, rheolwr ac arweinydd chwarae Clwb Carco Ltd yng Nghaerdydd.

Enwebwyd Ross gan Jane O’Toole, Prif Weithredwr Clybiau Plant Cymru, am ei waith i ddatblygu ansawdd chwarae ac ethos Clwb Carco, sy’n cynnal saith clwb gofal plant y tu allan i oriau ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ne Cymru.

Llongyfarchiadau mawr i Ross ac i’r pedwar unigolyn arall yn y rownd derfynol a derbyniodd cymeradwyaeth uchel – Ffion Hughes, Jenny Thomas, Menna Evans a Nikki Taylor.

Gwnaethom hefyd gynnal trafodaeth panel arbenigol fywiog am bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yn y sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, a ddenodd gynulleidfa fawr ac a ysgogodd nifer o gwestiynau.

Fel rhan o’r cynllun ‘Mwy na geiriau’, rydyn ni’n gweithio ar ymgyrch ar y cyd newydd gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae’r ymgyrch, o’r enw ‘Mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell’, yn ceisio annog gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt – pa bynnag lefel sgil iaith sydd ganddyn nhw.

Y rheswm am hyn yw oherwydd gall defnyddio ychydig o eiriau – fel ‘bore da’, ‘diolch’ neu ‘baned’ –mynd yn bell i helpu siaradwyr Cymraeg i deimlo’n fwy cyfforddus pan fyddant yn derbyn gofal a chymorth.

Yn ogystal â bod yn brysur gyda’r Eisteddfod yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni hefyd wedi lansio ymgyrch recriwtio i’n helpu i ddod o hyd i chwe aelod newydd o’n Bwrdd.

Ein nod yw sicrhau bod ein Bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth a diwylliant pobl Cymru, ac felly rydyn ni eisiau clywed gan bobl o bob cefndir.

Felly, os ydych chi’n rhywun sy’n trin pobl ag urddas a pharch, sydd eisiau dysgu sgiliau newydd a chael profiad gwerthfawr, sy’n hoffi gweithio gyda phobl a’u cynnwys, ac sy’n dymuno gwneud Cymru y gorau y gall fod, beth am ystyried ymuno â’n Bwrdd?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Medi am 4pm. Os oes gennych ddiddordeb, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Bydd ein Cadeirydd Mick Giannasi yn cynnal dwy sesiwn friffio ar-lein i roi trosolwg i unrhyw un sydd â diddordeb o bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud, ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 7pm ac 8pm ar 31 Awst a 4 Medi.

Os hoffech ymuno â sesiwn, anfonwch neges e-bost at Llinos Bradbury ar llinos.bradbury@socialcare.wales