Rydyn ni'n noddi gwobr i fyfyrwyr yn ystod Cynhadledd Comisiwn Bevan yng Nghasnewydd ym mis Gorffennaf.
Mae Comisiwn Bevan yn felin drafod iechyd a gofal blaenllaw sy'n cefnogi arloesedd drwy weithio gyda staff a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau yng Nghymru.
Mae digwyddiad eleni yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor ar 5 a 6 Gorffennaf.
Rydyn ni'n cefnogi gwobr Meddylwyr y Dyfodol Bevan, a wahoddodd fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau cysylltiedig ag iechyd a gofal i ysgrifennu traethawd am sut y dylai gwasanaethau yng Nghymru edrych yn 2050, a'r gwaith sydd ei angen i gyrraedd yno.
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi ar ail ddiwrnod y gynhadledd.
Bydd y digwyddiad ehangach yn cynnwys cyfres o weithdai a thrafodaethau ar ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford ymhlith y siaradwyr.
Gallwch ddarganfod fwy a phrynu tocynnau ar gyfer y gynhadledd drwy Eventbrite.