Jump to content
Newidiadau dros dro i’ch cyfnod cofrestru a’ch gofynion DPP
Newyddion

Newidiadau dros dro i’ch cyfnod cofrestru a’ch gofynion DPP

| Gofal Cymdeithasol Cymru

O heddiw, rydyn ni’n ymestyn cyfnod cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru dros dro o dair blynedd i bedair blynedd. Rydyn ni hefyd yn gwneud newidiadau dros dro i’r gofynion datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar gyfer gweithwyr.

Mae’r newidiadau dros dro yn golygu’r canlynol:

  • bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol a oedd wedi cofrestru gyda ni ar 31 Mawrth 2021 (ar wahân i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol) yn cael ei ymestyn o dair i bedair blynedd
  • nid yw’r oriau y bydd gweithwyr DPP yn gorfod eu cwblhau yn ystod y cyfnod cofrestru (90 awr) yn cynyddu a bydd yn aros yr un fath am y cyfnod pedair blynedd
  • bydd unrhyw weithiwr a weithiodd drwy’r pandemig yn cyflawni 50 y cant o’i ofynion DPP cyn cofrestru yn awtomatig – bydd ond angen i’r gweithwyr hyn gwblhau 45 awr ychwanegol o DPP i gyrraedd y 90 awr sy’n ofynnol.

Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu’r heriau sydd wedi wynebu gweithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig. Maen nhw hefyd yn ymateb i’r amgylchiadau anodd iawn sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn benodol, yr heriau wrth recriwtio a chadw staff.

Rydyn ni am sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol, rheolwyr a gweithwyr cymdeithasol yn gallu canolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei wneud, heb orfod poeni am gofrestru ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd am sicrhau bod gan bawb sydd wedi cofrestru gyda ni'r amser sydd ei angen arnyn nhw i gwblhau eu cymwysterau neu DPP.

Meddai David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Heddiw, rwy’n cyhoeddi dau newid pwysig, dros dro i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol.

“Y cyfnod 18 mis diweddar fu’r cyfnod anoddaf i’r sector ers cyn cof. Mae’r rhai sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn amlwg wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar ddarparu’r gofal gorau posibl yn ystod y pandemig, ac maen nhw i’w canmol am wneud hynny. Mae hyfforddiant ffurfiol a myfyrio wedi cymryd sedd gefn o gymharu â’r angen i gefnogi’r rhai sy’n defnyddio gofal a chymorth.

“Dyw hyn ddim yn golygu nad yw gweithwyr wedi bod yn datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Yn hytrach, rwy’n credu’n gryf mai’r gwrthwyneb sy’n wir, ac mae gweithio drwy’r argyfwng wedi gwneud ein gweithlu yn gryfach ac yn fwy parod i ddarparu’r gofal a’r cymorth gorau posibl.

“Rwy hefyd yn ymwybodol o’r amgylchiadau anodd sy’n wynebu’r sector o ran recriwtio a chadw staff. I gefnogi’r sector, rydyn ni wedi edrych ar beth allwn ni ei wneud i newid ein gofynion rheoleiddio i helpu darparwyr a chyflogwyr i ddenu a chadw staff, heb danseilio ein dyletswyddau i ddiogelu’r cyhoedd.

“Bwriad y newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yw adlewyrchu’r cyfleoedd cyfyngedig y mae gweithwyr wedi’u cael i fwrw iddi gyda’u hyfforddiant a’u datblygiad ffurfiol dros y 18 mis diwethaf. Rwy’n gobeithio y bydd hyn hefyd yn cyfrannu rhywfaint at wella cyfraddau recriwtio a chadw staff.”