Mae'r tudalennau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, pam ei fod yn bwysig, a sut i'w ymgorffori yn eich sefydliad. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n edrych i adeiladu ar waith presennol, fe welwch offer ymarferol, canllawiau ac enghreifftiau bywyd go iawn i gefnogi eich taith.
Beth sy'n newydd?
- Ynglŷn ag ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau: cyflwyniad clir i'r dull a'i fanteision
- Adnoddau ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau: gan gynnwys canllawiau ar gyfer gweithio gyda phobl â dementia ac anableddau dysgu
- Cefnogaeth i sefydliadau: tudalen newydd i helpu timau i ymgorffori ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu gwaith bob dydd
Dywedodd Jay Goulding, Swyddog Gwella a Datblygu yn Gofal Cymdeithasol Cymru:
“Mae’r tudalennau hyn yma i’ch helpu i roi ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ar waith. Gyda dulliau ymarferol, enghreifftiau bywyd go iawn a chanllawiau y gallwch eu defnyddio ar unwaith, maent wedi’u cynllunio i’ch cefnogi chi a’ch tîm. Cymerwch olwg, defnyddiwch yr hyn sy’n ddefnyddiol, rhannwch gyda chydweithwyr a chysylltwch i ddweud wrthym am eich gwaith”.
Archwiliwch y tudalennau a dywedwch wrthym beth yw eich barn. Gallwch hefyd edrych ar ein modiwl e-ddysgu ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.