Jump to content
Mae gofal cymdeithasol yn wirioneddol bwysig ond i ba raddau y mae cymdeithas yn ei werthfawrogi?
Newyddion

Mae gofal cymdeithasol yn wirioneddol bwysig ond i ba raddau y mae cymdeithas yn ei werthfawrogi?

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae’r penawdau diweddar, yn gwbl briodol, yn cael eu dominyddu gan Covid-19. Mae gallu’r feirws i gymryd anwyliaid, newid ein harferion bob dydd a chreu pryder ac ansicrwydd am ein dyfodol wedi creu argraff ddofn ar y byd.

Er bod pobl mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o drosglwyddo haint yn grwgnach am yr angen i roi eu hunain mewn cwarantin neu gyfyngu ar symudedd cymdeithasol, dylem feddwl am y gweithwyr allweddol sy’n darparu bwyd i ni, yn gofalu amdanom ac yn rhoi triniaeth feddygol i ni. Yr wyf yn canolbwyntio ar weithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr iechyd a’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu, gwerthu a darparu bwyd a gwasanaethau hanfodol.

Mae’r pandemig wedi dangos, os oedd angen rhagor o dystiolaeth, pa mor hanfodol yw’r gweithlu gofal cymdeithasol i les pobl o bob oed mewn cymunedau ledled Cymru. Mae eu cyfraniad hollbwysig hwy, ni all y GIG weithredu’n effeithiol, gan fod ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn helpu i gadw pobl yn ddiogel, gan sicrhau nad ydynt ond yn cael eu cyfeirio i’r ysbyty os oes gwir angen iddynt fod yno.

Mewn cyhoeddiad diweddar, cymharodd Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru delerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, a gyflogir yn y sector annibynnol neu gan yr awdurdod lleol, gyda gweithwyr cymorth gofal iechyd a gyflogir gan y GIG.

Mae’r adroddiad yn dangos bod rhywfaint o dystiolaeth o amrywiadau mewn cyflog ac amodau o fewn a rhwng pob un o’r sectorau gofal cymdeithasol, a rhyngddynt hwy a’r GIG.

Mae’r ymchwil yn darparu tystiolaeth bod y rheini sy’n cael eu cyflogi yn y sector annibynnol a gwirfoddol yn cael llai o gyflog ac yn cael buddion cyflogaeth gwaeth na’r rheini sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol.

Effeithir ar y gweithlu gofal cymdeithasol gan drosiant uchel a chyfraddau swyddi gwag. Roedd y ffactorau y canfuwyd eu bod yn effeithio ar recriwtio a chadw staff yn cynnwys cyflog, statws isel tybiedig gofal cymdeithasol fel opsiwn gyrfa a werthfawrogir, swyddi cystadleuol o sectorau eraill (fel manwerthu), ac oriau gwaith a phatrymau shifft.

Fel y dywedodd un gweithiwr o’r sector annibynnol: “Rydych chi’n gofyn i bobl wneud y gwaith anoddaf yn yr amodau gwaethaf a thalu llai iddyn nhw na’r hyn fydden nhw’n ei gael yn Asda.”

Fodd bynnag, mae tystiolaeth bod ffactorau eraill yn helpu i benderfynu pa mor hawdd yw recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, gan gynnwys manteision cyflogwyr, megis cefnogaeth ar gyfer datblygiad personol, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a lefelau annibyniaeth a boddhad mewn swydd.

Mae’r adroddiad yn datgelu mwy fyth o wahaniaeth rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n darparu gofal a chymorth rheng flaen, waeth pwy sy’n eu cyflogi, a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n cael eu cyflogi gan y GIG ac sy’n cyflawni rolau tebyg.

Mae gweithwyr y GIG yn elwa o’r statws uchel a roddir i holl weithwyr y GIG, yn ogystal â’r buddion ychwanegol o gyfraddau uwch o gyflogau a thâl salwch, polisïau mamolaeth a thadolaeth sy’n uwch na’r gofynion statudol sylfaenol.

Mae’r GIG yn system genedlaethol, gyda’r telerau a’r amodau wedi’u cytuno ledled y DU. Mae hyn yn golygu bod rolau tebyg yn cael eu talu ar yr un cyfraddau a bod pawb yn mwynhau’r manteision llawn o fod yn weithiwr yn y GIG, ni waeth ble rydych chi’n gweithio.

Cred rhai gwleidyddion mai system gofal genedlaethol yw’r unig ffordd y gall y sector gofal cymdeithasol sicrhau cydraddoldeb o ran telerau ac amodau, a pharch, gyda’i bartneriaid yn y GIG.

Efallai mai dyma’r ateb gorau ond mae’n debygol o gymryd sawl blwyddyn i ddwyn ffrwyth, gan y byddai angen rhagor o adnoddau ac y byddai angen deddfu hefyd.

Beth bynnag y bydd llywodraethau’r dyfodol yn dewis ei wneud i ddatrys yr heriau sy’n gysylltiedig â chyllido system gofal cymdeithasol gynaliadwy, mae’n amlwg bod angen sicrwydd ar ddinasyddion Cymru y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gael pan fydd eu hangen arnynt hwy neu ar eu teuluoedd.