Jump to content
Lansio hyfforddiant diogelu ar-lein newydd heddiw
Newyddion

Lansio hyfforddiant diogelu ar-lein newydd heddiw

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae hyfforddiant ar-lein newydd yn mynd yn ‘fyw’ heddiw i helpu pobl ledled Cymru i adnabod arwyddion cam-drin, niweidio neu esgeuluso plant neu oedolion.

Bydd y pecyn e-ddysgu dwyieithog yn cyfleu dealltwriaeth ymarferol i ddysgwyr o ddiogelu ac fe'i datblygwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a lansiwyd yn 2019.

Dyma'r cyntaf o gyfres o adnoddau hyfforddi ar-lein y byddwn yn eu datblygu ar wahanol bynciau.

Wedi'i lansio fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021, mae'r modiwl e-ddysgu wedi'i anelu'n bennaf at y rhai sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n edrych i weithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn ogystal ag ym maes iechyd, y gwasanaethau brys a chynghorau lleol.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Cyfrifoldeb pawb yw diogelu. Pa bynnag rôl rydych chi'n cael eich cyflogi ynddi, mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd i adnabod arwyddion cam-drin, niwed neu esgeulustod a gweithredu i amddiffyn plant neu oedolion sy’n agored i niwed.

“Mae hyfforddiant diogelu yn orfodol i’r mwyafrif o staff sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn ogystal â rolau eraill yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Fodd bynnag, mae hwn am fwy na chwblhau'r cwrs yn unig. Mae'n ymwneud â phob un ohonom yn gallu cefnogi ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed.

“Mae’r pandemig wedi tanlinellu pwysigrwydd cynyddu opsiynau i weithwyr a darpar recriwtiaid ymgymryd â hyfforddiant ar-lein, gan roi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw o ran pryd a ble y gallant ddysgu.

“Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfres o becynnau e-ddysgu ar wahanol bynciau. Mae’r hyfforddiant diogelu wedi’i ddatblygu gyda Bwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru a chynrychiolwyr o nifer o asiantaethau statudol ac o’r trydydd sector.

“Bydd yr hyfforddiant arlein nesaf yn cynnwys e-ddysgu i helpu i gynyddu gwybodaeth am weithio digidol ymhlith gweithwyr gofal, ac atal a rheoli heintiau. Rydyn ni’n disgwyl y bydd y ddau ar gael o fewn yr ychydig fisoedd nesaf,” ychwanegodd Sue.

Bydd y modiwl hyfforddiant dwyieithog newydd yn galluogi pawb i wneud y canlynol:

  • esbonio'r term 'diogelu'
  • cydnabod camdriniaeth neu'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod pa gamau i'w cymryd os ydyn nhw'n dyst neu'n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw'n cael eu cam-drin
  • dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r deddfau sy'n ymwneud â diogelu
  • cydnabod bod dyletswydd arnyn nhw i riportio camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys 13 adran ac mae'n cynnwys cwestiynau senario i helpu defnyddwyr i adeiladu dealltwriaeth ymarferol o ddiogelu a pha gamau i'w cymryd os credan nhw y gallai rhywun fod yn agored i niwed.

Mae'r modiwl yn gwbl hygyrch. Mae'n gydnaws â darllenwyr sgrin ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg. Ac mae'n defnyddio Text Help Read and Write i helpu defnyddwyr dyslecsig i ganolbwyntio ar ddarnau allweddol o wybodaeth, a gall defnyddwyr â phroblemau symudedd eu llywio gan ddefnyddio'r bysellau tab.