Mae tîm Cyflwyniad i ofal cymdeithasol Gofalwn Cymru wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr Datblygu’r Gweithlu yng Ngwobrau Gofal Prydeining yng Nghymru eleni.
Enwebwyd y tîm oherwydd ei lwyddiant yn cynnig hyfforddiant i bobl sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd o fewn gofal.
Mae Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn rhaglen hyfforddiant ar-lein wedi’i ariannu i unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Mae'n ymdrin â'r elfennau hanfodol i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol, fel cyfathrebu, cadw pobl yn ddiogel ac arferion gwaith.
Ers i’r rhaglen gael ei sefydlu, mae mwy na 20 y cant o’r bobl sydd wedi’i gwblhau wedi dod o hyd i swydd mewn gofal cymdeithasol, neu wedi dechrau astudio’n y coleg neu’r brifysgol.
Mae’n anrhydedd i ni gael ein henwebu ar gyfer y wobr fawreddog hon. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r tîm wedi gweithio'n galed i gynnig cyfleoedd hyfforddi i fwy na 500 o bobl ledled Cymru.
Mae Gofalwn Cymru yn ceisio dymchwel y rhwystrau sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobl gael swyddi ym maes gofal cymdeithasol, ac eisiau rhoi’r cyfle i gymaint o bobl â phosib weithio mewn gyrfa werth chweil.
Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 26 Ionawr. Bydd enillwyr o Gymru yn cael eu gosod ar restr fer Gwobrau Gofal y DU.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol ar wefan Gofalwn Cymru.