Jump to content
Hugh James, cwmni cyfreithiol a’i bencadlys yng Nghaerdydd, i noddi Gwobrau 2024
Newyddion

Hugh James, cwmni cyfreithiol a’i bencadlys yng Nghaerdydd, i noddi Gwobrau 2024

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi Hugh James, cwmni cyfreithiol 100 pennaf y DU, fel prif noddwr y Gwobrau 2024.

Gwobrau blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r Gwobrau. Maen nhw’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith ardderchog sy’n digwydd ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Bydd Martin Jones, Partner a Phennaeth yr Adran Reoleiddio yn Hugh James, yn rhoi’r cyfarch agoriadol yn seremoni’r Gwobrau 2024, a fydd yn cael ei gynnal yng ngwesty Mercure Cardiff Holland House ar 25 Ebrill 2024.

Mae Hugh James yn ymdrin ag amrywiaeth o arbenigiadau cyfreithiol ac mae ganddyn nhw bresenoldeb gweithredol yn y sector gofal yng Nghymru.

Mae’r cwmni’n darparu cyngor a chynrychioliad i awdurdodau cyhoeddus mewn achosion sy’n ymwneud â’r Ddeddf Plant a’r Llys Gwarchod.

Maen nhw hefyd yn cynghori awdurdodau cyhoeddus, cyrff chwaraeon a sefydliadau eraill ar ddiogelu, yn gweithredu dros ddarparwyr gofal mewn materion eiddo, corfforaethol, masnachol a rheoleiddiol, ac yn gweithredu dros reoleiddion y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dywedodd Martin: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn brif noddwr y Gwobrau 2024. Yn Hugh James, rydyn ni’n cydnabod cyfraniad amhrisiadwy’r rhai sy’n ymroddgar i ofal cymdeithasol ac rydyn ni’n ymroddedig i ddarparu cymorth a chefnogaeth i’w gwaith hanfodol. Llongyfarchiadau i’r enwebedigion am eu hymrwymiad diysgog i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Rwy’n dymuno pob hwyl iddynt.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydyn ni’n falch i groesawu Hugh James fel prif noddwr y Gwobrau 2024. Mae gennym ni berthynas gweithredol agos gyda’r cwmni ers sawl blynedd ac wrth ein boddau eu bod wedi cytuno i noddi’n gwobrau.

“Mae’r Gwobrau’n gyfle i ni ddweud diolch ac i ddathlu’r gwaith gwerthfawr mae ein timau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn ei wneud i gefnogi ein dinasyddion fwyaf agored i niwed.

“Ni allwn gael y Gwobrau heb gefnogaeth ein noddwyr, felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Hugh James am gymryd y cyfle hwn i ddangos eu cefnogaeth i’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar trwy fod yn brif noddwr y gwobrau.”