Jump to content
Helpwch ni i adeiladu gweithlu sy’n barod i wneud y gorau o dechnoleg ddigidol
Newyddion

Helpwch ni i adeiladu gweithlu sy’n barod i wneud y gorau o dechnoleg ddigidol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n archwilio opsiynau ar gyfer teclyn newydd a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau digidol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yn 2023, gweithion ni gyda sefydliad o’r enw Basis i edrych ar y ffordd orau o gefnogi arloesedd digidol mewn gofal cymdeithasol.

Fe wnaethon ni darganfod bod bylchau yn y sgiliau sydd angen ar y gweithlu i gefnogi arloesedd digidol yn y sector.

Rydyn ni eisiau i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru i'n helpu ni a Basis i ddatblygu teclyn a fydd yn asesu aeddfedrwydd a llythrennedd digidol presennol y sector.

Mae ‘aeddfedrwydd a llythrennedd digidol’ yn golygu gallu a hyder sefydliad a’i bobl i ddefnyddio technoleg yn effeithiol a darparu gwerth.

Gall canfod a mynd i’r afael â’r bylchau yn sgiliau digidol y gweithlu helpu arwain at wasanaethau mwy effeithiol a chanlyniadau gwell i bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Rydyn ni eisiau dysgu mwy am bethau fel:

  • sut mae adnoddau a thechnoleg ddigidol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ychwanegu gwerth at ofal a chymorth pobl
  • sgiliau a hyder digidol y gweithlu i ddefnyddio'r adnoddau a'r technolegau digidol hyn
  • beth arall sydd ei angen i gefnogi'r gweithlu i ddefnyddio'r adnoddau digidol hyn.

Sut allwch chi helpu

Hoffen ni glywed eich profiadau o ddefnyddio technoleg ddigidol i ddiwallu anghenion y bobl rydych chi’n eu cefnogi.

Os ydych chi’n hapus i rannu eich profiadau a gweithio gyda ni i ddatblygu teclyn asesu, anfonwch e-bost at strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn ni'n cysylltu i drefnu sgwrs.

Mae Basis hefyd wedi creu arolwg byr i'n helpu ni i ddysgu mwy am sut allwn ni ddatblygu teclyn sy'n gweithio orau i chi a'ch sefydliad.

Mae'r arolwg dienw yn cymryd tua chwe munud i'w gwblhau.

Bydd eich cefnogaeth a’ch mewnbwn yn helpu sicrhau bod unrhyw asesiad yn gwella:

  • gallu arweinwyr i wneud penderfyniadau strategol a dyrannu adnoddau yn fwy effeithiol
  • ein dealltwriaeth o anghenion datblygu a’r bylchau sgiliau yn y gweithlu
  • recriwtio a chadw pobl wych
  • gallu sefydliadau i brofi datrysiadau digidol arloesol
  • cydweithio a chefnogaeth gyfannol
  • mynediad cyfartal i gyfleoedd a chymorth gan ddefnyddio adnoddau digidol
  • gallu'r gweithlu i ymarfer gofal mwy personol dan bwysau a disgwyliadau cynyddol.