Jump to content
Helpwch i lywio ein rhaglen arweinyddiaeth gyfunol a thrugarog newydd
Newyddion

Helpwch i lywio ein rhaglen arweinyddiaeth gyfunol a thrugarog newydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n datblygu rhaglen newydd gyda Leaderful Action ar gyfer uwch arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol, ac rydyn ni am gael eich cymorth chi i’w gwneud mor fuddiol â phosibl.

Bydd y rhaglen sy’n dechrau yn gynnar yn 2023 yn:

  • helpu i feithrin arweinyddiaeth gyfunol a thrugarog yn y sector
  • rhoi cyfle i uwch arweinwyr gydweithio ar broblemau real a chyfredol
  • helpu arweinwyr i ddeall a datblygu eu harddull arweinyddiaeth
  • canolbwyntio ar addysg cymheiriaid a gweithredu
  • heb ei hachredu.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer:

  • pennaeth gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol
  • pobl mewn rolau uwch yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, fel rheolwyr gweithredol neu ddirprwy gyfarwyddwyr.

I gymryd rhan yn yr hyfforddiant, bydd gennych chi:

  • gyfrifoldebau strategol, fel rhoi polisi, strategaeth a deddfwriaeth ar waith
  • cyfrifoldeb gweithredol am arwain gwahanol dimau neu wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol.

Cymryd rhan

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei reoli, yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon, rydyn ni am glywed gennych chi. Gallwch ein helpu i sicrhau bod y rhaglen yn berthnasol ac yn gweithio i arweinwyr.

Gallwch chi helpu i lywio’r rhaglen drwy lenwi ein harolwg byr.

Cysylltu â ni