Mae’n werth i ni i gyd gael ein hatgoffa, petai angen hynny, am ba mor wych yw’r gwaith y mae ein gweithwyr gofal yn ei wneud yng Nghymru, gan gynorthwyo pobl o bob oed yn ein cymunedau bob diwrnod o’r flwyddyn.
Daw atgof o’r fath mewn ffordd rymus bob amser trwy’r Gwobrau mawr eu bri, a gynlluniwyd i gydnabod a dathlu ymarfer rhagorol ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Roedd Gwobrau eleni yr un mor rymus, emosiynol ac ysbrydoledig, er iddynt gael eu cynnal mewn amgylchiadau gwahanol iawn i’r arfer.
Fel arfer, cynhelir seremoni wobrwyo gerbron cynulleidfa fawr yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, ond i gadw pawb yn ddiogel eleni, bu’n rhaid i ni fod yn greadigol a chynnal darllediad ‘byw’ dros y rhyngrwyd. Roedd hyn yn cynnwys sawl fideo a recordiwyd o flaen llaw o bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, yn dangos y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud. Roedd yr ymatebion emosiynol pan wyliwyd y fideos, a phan gyhoeddwyd yr enillwyr, yn amhrisiadwy.
Ychwanegodd y digrifwr Rhod Gilbert ei farn bersonol trwy neges a recordiwyd o flaen llaw, lle’r oedd yn cofio ei brofiad o weithio mewn gofal yn rhan o’i gyfres profiad gwaith i’r BBC.
Er mai dim ond blas bach ar weithio mewn gofal a gafodd Rhod, cafodd effaith fawr arno, yn amlwg. Dywedodd ei fod yn teimlo’n ostyngedig ac wedi’i ryfeddu gan ansawdd y gweithwyr gofal a gyfarfu. Yn ei eiriau unigryw ei hun, soniodd Rhod, cyn recordio’r rhaglen, y dywedwyd wrtho y byddai’r swydd yn “75 y cant pen ôl”. Ond, ar ôl ei brofiad, roedd Rhod yn meddwl ei fod yn “1,000 y cant calon ac ymroddiad, gwaith caled, tosturi ac aberth.”
Cyhoeddi’r enwebeion oedd uchafbwynt y flwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed i’r Gwobrau, wrth i 160 o geisiadau gael eu derbyn. Roedd yn wych gweld ceisiadau mor amrywiol, yn cynnwys prosiectau ac unigolion o bob rhan o Gymru ac yn cynrychioli cynifer o wahanol agweddau ar ofal cymdeithasol a gofal plant.
Roedd gennym chwe chategori o wobrau, a’r enillwyr oedd:
Creu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd, a noddwyd gan Unsain
Enillydd – Gwasanaeth Mentora Rhieni Navigate @ Scope
Datblygu ac ysbrydoli gweithlu yfory, a noddwyd gan Ddata Cymru
Enillydd - 'Outside In', Prifysgol Glyndŵr
Gwella gofal a chymorth gartref gyda’n gilydd, a noddwyd gan CBAC a City and Guilds
Enillydd - Pontio'r Bwlch, NEWCIS
Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio, a noddwyd gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru
Enillydd - Meddwl am y Baban, Pen-y-bont ar Ogwr
Gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia a gwrando arnynt, a noddwyd gan Blake Morgan
Enillydd – Canolfan Rainbow Centre, ger Wrecsam
Gwobr Gofalwn Cymru ar gyfer unigolyn eithriadol, a bleidleisiwyd gan y cyhoedd ac a noddwyd gan yr ymgyrch Gofalwn Cymru
Enillydd - Sandra Stafford, gofalwr maeth o Gonwy
Fe’ch anogaf i wylio recordiad o’r rhaglen i weld y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud ledled Cymru a’r mathau o swyddi sy’n rhoi cymaint o foddhad i bobl. Chwiliwch am Ofal Cymdeithasol Cymru ar YouTube ac fe allwch weld rhaglen lawn y Gwobrau yn ogystal â fideos o’r holl rai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Cewch eich ysbrydoli – a chofiwch, mae arnom angen mwy o bobl i weithio ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant – a allech chi ateb yr alwad? Ewch i’r wefan Gofalwn.Cymru i gael gwybod mwy.