Jump to content
Gweithwyr gofal cymdeithasol, rydyn ni eisiau clywed sut rydych chi wedi bod yn ymdopi yn ystod y pandemig
Newyddion

Gweithwyr gofal cymdeithasol, rydyn ni eisiau clywed sut rydych chi wedi bod yn ymdopi yn ystod y pandemig

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol neu'n weithiwr gofal cymdeithasol, rydyn ni eisiau clywed am yr heriau rydych chi wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig a sut rydych chi wedi ymdopi â nhw.

Gallwch rannu eich profiadau trwy gwblhau arolwg byr a ddatblygwyd gan Brifysgol Ulster, gyda chefnogaeth ni, fel y gallwn ddeall yn well yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gweithlu gofal cymdeithasol.

Rydyn ni eisiau darganfod sut yr effeithiwyd ar ansawdd eich bywyd gwaith, eich lles cymdeithasol ac emosiynol dros y chwe mis diwethaf wrth i'r pandemig symud ymlaen.

Mae’r arolwg, Ansawdd bywyd gwaith ac ymdopi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wrth weithio yn ystod Pandemig Covid-19: Cam 2, yn cymryd 15 munud i’w gwblhau ac yw’r ail mewn cyfres o dri arolwg.

Gellir gweld crynodeb gweithredol o'r arolwg cyntaf yma (Saesneg yn unig) ac mae'r adroddiad llawn i'w weld yma (Saesneg yn unig).

Cymerwch ran yn yr arolwg

I gael mwy o wybodaeth am yr ymchwil hon, cysylltwch â Paula McFadden ar p.mcfadden@ulster.ac.ukneu Patricia Gillen ar p.gillen@ulster.ac.uk.