Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Abertawe wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei chamymddygiad difrifol yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer.
Cafodd Kayleigh Elkins ei chyhuddo o barhau i gael cyswllt gyda pherson ifanc, a oedd wedi derbyn gofal gan y cartref plant lle bu’n gweithio fel dirprwy reolwr, ar ôl i’r person ifanc adael y cartref.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod y person ifanc yn ffrind i ferch Ms Elkins ac ym mis Mawrth 2020, roedd Ms Elkins wedi penderfynu’n amhriodol i fynd â’r person ifanc a’i merch ar ymweliad dros nos â Manceinion, er bod ei rheolwyr wedi dweud wrthi’n glir am beidio â mynd.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd bod Ms Elkins wedi methu’n anonest â rhoi gwybod i’w chyflogwr ei bod wedi cael ei harestio am ymosodiad ym mis Mai 2020. Dim ond ar ôl i Ms Elkins gael ei holi gan ei chyflogwr bythefnos yn ddiweddarach y cyfaddefodd i’r digwyddiad.
Nid oedd Ms Elkins yn bresennol yn y gwrandawiad dau ddiwrnod, a gynhaliwyd dros Zoom ar 3 i 4 Awst 2021.
Ar ôl clywed y dystiolaeth, canfu’r panel fod camymddygiad difrifol Ms Elkins yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Rydym wedi canfod bod Ms Elkins wedi methu’n anonest â rhoi gwybod i’w chyflogwr ei bod wedi cael ei harestio ar amheuaeth o drosedd o drais.
“Fe aeth hi hefyd yn groes i gyngor ei rheolwyr wrth iddi barhau â’i pherthynas â [y person ifanc]. Dywedodd wrth ei chyflogwr yn ystod ei chyfweliad disgyblaeth ei bod yn benderfynol o barhau i weithredu yn erbyn y cyngor i’r graddau yr oedd [y person ifanc] yn y cwestiwn.
“Mae’r datganiad hwn o fwriad i barhau â pherthynas, a oedd wedi peryglu ei swydd a’i chofrestriad proffesiynol, yn awgrymu’n gryf y bydd risg o gamymddwyn yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y panel: “Mae’n rhwystredig nad yw [Ms Elkins] wedi cymryd rhan [yn y broses hon] gan nad oes modd i ni farnu a yw hi wedi ceisio cywiro pethau ers hynny, wedi myfyrio ar ei hymarfer neu wedi cael ei hysgogi i wneud hynny yn y dyfodol.”
Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Elkins oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydym yn ei gwneud hi’n glir ei bod hi’n druenus bod pethau wedi dod i hyn. Drwy ddod yn gofrestredig, ysgwyddodd Ms Elkins gyfrifoldeb i ymgysylltu â’r rheoleiddiwr.
“Rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn oherwydd bod diffyg ymgysylltiad Ms Elkins wedi atal ystyried datrysiadau eraill. O’r herwydd, credir bod Gorchymyn Dileu yn briodol o ystyried y difrifoldeb.”