Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Lynebwy yn mynd i gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol wedi i wrandawiad canfod bod ei gamymddygiad difrifol wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Cafodd Ian Jayne ei atal dros dro gan ei gyflogwr ym mis Medi 2018 ar ôl i honiadau am ei ymddygiad amhriodol ddod i’r amlwg.
Cafodd Mr Jayne ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd rhywiol amhriodol tuag at gydweithiwr yn gynharach y mis hwnnw, gan ymosod arni’n gorfforol wrth iddi eistedd mewn cadair a gwneud sylwadau amhriodol.
Cafodd ei gyhuddo hefyd o greu fideo o ben ôl y cydweithiwr a gwneud sylwadau amhriodol yn ystod taith i’r traeth gyda rhai o’r bobl ifanc yn eu gofal ym mis Mehefin 2018. Wedyn, rhannodd y fideo â chydweithwyr eraill drwy WhatsApp.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y panel fod cymhelliant rhywiol i ymddygiad Mr Jayne yn y ddau ddigwyddiad a bod ei gamymddygiad difrifol wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Targedodd [Mr Jayne] [y cydweithiwr] ar ddau achlysur gwahanol gan fynd ati wedyn i gamymddwyn o’i blaen mewn modd gresynus â chymhelliant rhywiol... Roedd yr ail ddigwyddiad yn gorfforol ymosodol, a phan gyfleodd [y cydweithiwr] ei theimladau’n glir wrth [Mr Jayne], ei ymateb oedd cerdded i ffwrdd dan chwerthin.”
Ychwanegodd y panel: “Yn ein barn ni, mae diffyg dirnadaeth [Mr Jayne] yn creu risg gyfredol i unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae hyn, yn ein barn ni, yn gwaethygu pethau gan ei fod yn dangos diffyg dirnadaeth o effaith bosibl ei ymddygiad nid yn unig ar [ei gydweithiwr], ond hefyd ar unrhyw bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaethau a allai fod wedi bod yn dyst i’r ymddygiad...
“Wrth edrych ymlaen, mae hynny’n destun pryder mawr oherwydd bod [Mr Jayne], yn ein barn ni, yn peri risg debyg i gydweithwyr ac unigolion agored i niwed y gallai weithio gyda nhw yn y dyfodol (ac y byddai ganddo ddyletswydd gofal tuag atynt).”
Penderfynodd y panel dynnu Mr Jayne oddi ar y Gofrestr, gan nodi: “Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd, o ystyried y diffyg dirnadaeth ac adferiad y cyfeiriwyd atynt eisoes a’r ffaith i ni ganfod bod cymhelliant rhywiol i’w ymddygiad.”
Nid oedd Mr Jayne yn bresennol yn y gwrandawiad deuddydd a gynhaliwyd o bell dros Zoom yr wythnos diwethaf.
Ar hyn o bryd, mae Mr Jayne wedi’i atal dros dro rhag gweithio mewn swydd gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a bydd yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr ar 5 Hydref 2020.