Jump to content
Gweithiwr gofal preswyl i blant wedi'i dynnu oddi ar y Gofrestr yn sgil ymddygiad amhriodol ac anonest
Newyddion

Gweithiwr gofal preswyl i blant wedi'i dynnu oddi ar y Gofrestr yn sgil ymddygiad amhriodol ac anonest

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Sir y Fflint wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod ei gamymddygiad difrifol wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Andrew Cheers, ym mis Gorffennaf 2018, wedi gweiddi a defnyddio tôn ymosodol gyda chydweithiwr yn ystod digwyddiad mewn car, lle oedd person ifanc agored i niwed dan ei ofal yn cael ei hatal ar y pryd.

Cafodd Mr Cheers ei gyhuddo o chwerthin ar y person ifanc agored i niwed a’i bygwth tra oedd yn ei hatal, gan ddweud wrthi ar fwy nag un achlysur yn ystod y daith yn y car y byddai’n ei lladd.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Mr Cheers wedi rhoi cofnod ffug a chamarweiniol o’r hyn a ddigwyddodd i’w gydweithiwr, gan ddweud wrthi am gynnwys y cofnod anonest hwn yn adroddiad y digwyddiad, mewn ymgais i guddio ei ymddygiad amhriodol.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod camymddygiad difrifol Mr Cheers wedi amharu ar ei addasrwydd i ymarfer.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Nid oes gennym unrhyw amheuaeth fod ymddygiad Mr Cheers [tuag at y person ifanc] yn warthus.

“Roedd wedi’i gyfeirio at berson ifanc agored i niwed nad oedd wedi gweithio â hi o’r blaen. Roedd ei ymddygiad yn fygythiol, yn sarhaus ac yn frawychus. Mae’n amlwg yn croesi’r trothwy o ran camymddwyn difrifol.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Er ein bod yn cydnabod bod y materion ... wedi digwydd ar un diwrnod, ni allwn ddod i’r casgliad ei bod yn deg disgrifio’r materion hynny ... yn rhai neilltuol.

“Yn hytrach, yn ein barn ni, maent yn cynrychioli patrwm o ymarfer amhriodol, gan eu bod yn ymwneud ag ymddygiad tuag at gydweithiwr a pherson ifanc agored i niwed dan ofal Mr Cheers, a’i fod wedi ymddwyn gyda’r bwriad o dwyllo ei gyflogwr a/neu unrhyw berson a allai ddarllen Ffurflen Adroddiad y Digwyddiad.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Cheers oddi ar y Gofrestr, gan nodi: “Rydym wedi penderfynu, ar sail y dystiolaeth sydd ger ein bron, mai dim ond Gorchymyn Dileu fydd yn briodol.

“Mae hyn oherwydd y bu gwyro difrifol, yn ein barn ni, oddi wrth y safonau perthnasol a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol.

“Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd, o ystyried y diffyg dirnadaeth ... a’r anonestrwydd a welsom.”

Nid oedd Mr Cheers yn bresennol yn y gwrandawiad dau ddiwrnod yng Ngwesty Beaufort Park yn yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf.