Jump to content
Gweithiwr gofal cartref wedi’i thynnu oddi ar y Gofrestr am ddwyn
Newyddion

Gweithiwr gofal cartref wedi’i thynnu oddi ar y Gofrestr am ddwyn

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Sir Gâr wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad y cafwyd Oluwayemisi Sobola yn euog o ddwyn yn Llys Ynadon Llanelli ar 26 Hydref 2021 ar ôl dwyn iPad a oedd yn eiddo i breswylydd a fu farw yn y cartref gofal lle’r oedd yn gweithio.

Cafodd ei dedfrydu wedyn i Orchymyn Cymunedol o 100 awr o waith di-dâl a gorchmynnwyd iddi dalu costau llys o £640 a thâl ychwanegol o £95.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod euogfarn droseddol Ms Sobola yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Er ein bod yn derbyn ei bod yn ymddangos bod y drosedd yn ddigwyddiad ‘unwaith yn unig’, nid ydym yn hyderus bod ymddygiad Ms Sobola yn annhebygol iawn o gael ei ailadrodd.”

Ychwanegodd y panel: “Yn ogystal â dwyn eiddo personol oddi ar ddefnyddiwr gwasanaeth a oedd wedi marw, mae hi wedi gwadu hynny ac wedi methu â derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn a wnaeth.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym yn credu y byddai hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol a chynnal safonau proffesiynol yn cael ei danseilio pe na bai canfyddiad o amhariad presennol yn cael ei wneud o dan yr amgylchiadau.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Sobola oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Dyma’r unig ganlyniad sy’n diwallu’r angen i ddiogelu aelodau’r cyhoedd a’r angen i ddiogelu hyder y cyhoedd yng ngoleuni natur ddifrifol y drosedd.”

Nid oedd Ms Sobola yn bresennol yn y gwrandawiad a gynhaliwyd ar-lein yn gynharach yr wythnos yma.