Jump to content
Gweithio i asiantaethau ym maes gofal cymdeithasol: dywedwch wrthym am eich profiadau
Newyddion

Gweithio i asiantaethau ym maes gofal cymdeithasol: dywedwch wrthym am eich profiadau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol drwy asiantaeth yn ystod y pedair wythnos diwethaf? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Rydyn ni’n gweithio gyda Opinion Research Services (ORS) i gael gwybod mwy am weithio i asiantaethau ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i ddeall pam fod pobl yn dewis gweithio drwy asiantaeth, a sut i wella arferion gweithio i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Rydyn ni wedi trefnu grwpiau trafod er mwyn i chi allu dweud wrthym am eich profiad fel gweithiwr asiantaeth.

Bydd y grwpiau trafod ar-lein yn cael eu cynnal:

  • 28 Tachwedd, 10.30am tan hanner dydd: gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso
  • 29 Tachwedd, 10.30am tan hanner dydd: gweithwyr cymdeithasol i blant
  • 30 Tachwedd, 10.30am tan hanner dydd: gweithwyr cymdeithasol i oedolion
  • 2 Rhagfyr, 10.30am tan hanner dydd: staff gofal cymdeithasol.

Rydyn ni’n cynnig taleb rhodd gwerth £40 i bawb sy’n cymryd rhan. Gallwch ddefnyddio’r talebau mewn llawer o lefydd, ac maen nhw’n hyblyg o ran defnydd.

Sut mae cymryd rhan

Os ydych chi eisiau cymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb erbyn dydd Gwener, 11 Tachwedd. Dim ond os ydych chi wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol drwy asiantaeth yn ystod y pedair wythnos diwethaf y gallwch chi gymryd rhan.

Byddwn ni ond yn cysylltu â chi os ydych chi wedi cael eich dewis i fod yn bresennol.

Preifatrwydd

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei darparu ond yn cael ei chadw gan ORS, sy’n cynnal y grwpiau ffocws ar ein rhan. Ni fydd yn cael ei drosglwyddo i ni nac i unrhyw drydydd parti arall.

Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei phrosesu gan ORS yn unol â’r rheoliadau diogelu data diweddaraf, a dim ond i lywio’r astudiaeth hon y bydd yn cael ei defnyddio. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a allai ddatgelu pwy ydych chi yn cael ei dinistrio erbyn mis Ebrill 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd a pholisi preifatrwydd ORS.

Bydd y sesiynau’n cael eu hwyluso gan ORS. Byddwn ni’n cael y canlyniadau, ond ni fyddwn yn cymryd rhan yn y grwpiau ffocws a bydd yr holl ymatebion yn ddienw.

Ni fydd mwy na 10 cyfranogwr i bob grŵp. Os oes llawer o bobl â diddordeb ond nad oes digon o lefydd ar gael, bydd ORS yn edrych ar yr ymgeiswyr i wneud yn siŵr bod cynrychiolaeth o bob rhan o’r gweithlu.