Rydyn ni’n diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr, i sicrhau eu bod mor glir a hawdd i'w defnyddio â phosibl.
Mae'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn ein helpu i wella a diweddaru'r canllawiau ymarfer sy'n gysylltiedig â'r Codau.
Gan adeiladu ar adborth sydd eisoes wedi'i rannu, rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y canllawiau ymarfer newydd yn ystyrlon ac yn fuddiol ar gyfer ymarfer bob dydd. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n sicrhau eu bod nhw’n cael eu hysgrifennu'n glir, bod ganddynt strwythur da, eu bod yn hawdd i’w llywio a'u diweddaru, a’u bod mewn fformat hygyrch.
Er mwyn ein helpu i wneud hyn yn iawn, mae IPC yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ym mis Mai. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ar-lein ac yn para dwy awr. Maen nhw’n agored i:
- weithwyr gofal cymdeithasol
- gweithwyr cymdeithasol
- rheolwyr tîm
- uwch reolwyr
- unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.
Yn ystod y sesiynau, cewch gyfle i helpu i lunio'r canllawiau ymarfer diwygiedig. Rydyn ni’n awyddus i wybod beth sy'n gweithio orau i chi, ac i wybod mwy am eich profiad o ddefnyddio’r canllawiau ymarfer presennol.